Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi mynediad cyhoeddus at wybodaeth sy'n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus.
Gwneir hyn mewn dwy ffordd.
Mae gan y cyhoedd yr hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth wedi'i chofnodi y mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ei chadw.
Mae'n bosibl na fydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gallu darparu'r wybodaeth y gofynnoch amdani os nad ydym yn ei chadw, os ydyw'n berthnasol i un neu fwy o eithriadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu os fyddai'n costio gormod, neu'n hawlio gormod o amser staff, i ymdrin â'r cais.
I wneud cais Rhyddid Gwybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost neu drwy’r post.