Neidio i'r prif gynnwy

Ein cefndir

Croeso i Ap GIG Cymru

Mae Ap GIG Cymru yn ffordd syml a diogel i chi allu ceisio amrywiaeth o wasanaethau ar eich dyfeisiau symudol neu borwr gwe.

Gallwch:

  • drefnu a chanslo apwyntiadau
  • trefnu presgripsiynau amlroddadwy
  • newid manylion personol

Yn dibynnu ar osodiadau eich practis meddyg teulu, gallwch hefyd weld Crynodeb o'ch Cofnodion Gofal a Chofnodion Manwl wedi'u Codio.

Beth yw nod Ap GIG Cymru?

Y nod yw cynyddu cyfranogiad pobl at reolaeth eu hiechyd a'u llesiant i alluogi canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol mwy cadarnhaol i bobl Cymru. Mae gweledigaeth y rhaglen yn ehangach na darparu Ap yn unig. 

Gweledigaeth y Rhaglen yw sefydlu prif lwyfan ar gyfer gwasanaethau i gefnogi datblygiad cyfunol Gwasanaethau Digidol gan sawl parti ar gyfer pobl Cymru. Ochr yn ochr â hynny, bydd partneriaid cyflawni gwasanaethau (megis Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Unedol) yn parhau i hyrwyddo'r agenda leol dros newid drwy drawsnewid y gwasanaeth a thrwy fodelau cyflawni gofal newydd, wedi'u galluogi gan Wasanaethau Digidol newydd.

I ddechrau, bydd y Gwasanaethau Digidol hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl bron â defnyddio technoleg i alluogi cleifion i ryngweithio â'r GIG, ond dros amser bydd yn cael ei ymestyn i gefnogi rhyngweithiadau rhwng dinasyddion a gofal cymdeithasol, gofal iechyd preifat a'r trydydd sector. Yn y pendraw, mae'r weledigaeth yn caniatáu i'r gefnogaeth hon at ryngweithiadau digidol ymestyn i gefnogi dinasyddion sy'n ymgysylltu â gweithgareddau iechyd cyffredinol, ffitrwydd a llesiant, sydd y tu hwnt i ffiniau traddodiadol iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Ap hwn yn cael ei gynnal a'i reoli gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)