Neidio i'r prif gynnwy

Polisi preifatrwydd y wefan

Mae'r polisi preifatrwydd hwn ar gyfer y wefan Cymorth a Chefnogaeth. Mae polisi preifatrwydd ar wahân ar gyfer Ap GIG Cymru

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad cenedlaethol yn darparu gwasanaethau technoleg a digidol ar gyfer rhoi gofal modern i gleifion yng Nghymru. Er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein swyddogaethau, mae angen i ni ddefnyddio data personol. Hynny yw, gwybodaeth sy'n adnabod unigolion byw.

Mae ein Polisi Preifatrwydd wedi'i anelu at gleifion neu eraill y mae eu data personol yn cael ei gadw a/neu ei ddefnyddio gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Mae'n egluro pam ein bod yn cadw gwybodaeth o'r fath, beth ydym yn ei wneud gyda hi, eu hawliau a gyda phwy y gallant gysylltu pe byddai angen rhagor o wybodaeth arnynt.

Adborth a holi

Gallwch anfon adborth atom drwy ein ffurflen adborth ar-lein. Os ydych yn darparu manylion cyswllt i ni er mwyn i ni allu ymateb i'ch ymholiad, yna bydd y manylion hynny yn cael eu defnyddio at y diben hwnnw yn unig.

Gwybodaeth ynghylch defnydd o'r safle

Cwcis

Darnau o ddata yw cwcis, sy'n cael eu creu pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae ein safle yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth wrth i chi symud o gwmpas y safle. Gallwch osod eich cyfrifiadur i beidio â derbyn cwcis. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai o nodweddion y safle oherwydd bod angen i ni gofnodi eich dewisiadau er mwyn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn ystod eich ymweliad.

Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol yn eich cylch chi ac nid ydynt yn cadw unrhyw wybodaeth ynghylch pa safleoedd yr ydych wedi ymweld â nhw cyn ymweld â hon.

Sut i analluogi cwcis

Mae'r ffordd yr ydych yn analluogi cwcis yn dibynnu ar eich porwr. Dyma rai o'r porwyr mwyaf cyffredin:

Gwybodaeth personol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol ynghylch defnyddwyr y safle.

Pan fyddwch yn cyflwyno'n wirfoddol data y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod chi ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth neu holiaduron), caiff y wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno ei defnyddio i ymateb i'ch ymholiadau ac at ei diben bwriadedig yn unig.

Rhestrau postio

Pa ddata ydym ni'n ei gasglu?

Pan fyddwch yn tanysgrifio i'r rhestrau postio, rydym yn cofnodi'ch cyfeiriad e-bost. Rydym hefyd yn casglu'ch dewisiadau tanysgrifio, sydd ar hyn o bryd wedi'i gyfyngu i fanylion o ba restri yr ydych wedi tanysgrifio iddynt.

Mae'n bosibl hefyd y gallwn gofnodi gwybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio i'ch adnabod chi os ydych yn dewis ei ddarparu. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio'n unig at ddibenion dadansoddi mewnol i fod yn sail i benderfyniadau ynghylch natur a chynnwys ein gohebiaethau. Rydym yn defnyddio Constant Contact fel ein darparwr cylchlythyr ac i weinyddu ein rhestrau postio.

Mae hyn hefyd yn ein darparu ni â gwybodaeth defnydd ynghylch ein rhestrau postio, gan gynnwys ystadegau yn ymwneud â sawl tanysgrifiwr sy'n agor neu'n darllen pob cylchlythyr a nifer y cliciau a gynhyrchir gan ddolenni sydd wedi'u cynnwys mewn cylchlythyr. Caiff y data hwn ei ddefnyddio'n unig yn sail i benderfyniadau ynghylch natur a chynnwys ein gohebiaethau.

At ba ddiben ydym ni'n bwriadu defnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon diweddariadau o'r rhestrau postio yr ydych wedi ymuno â nhw yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei ychwanegu at unrhyw restr arall, ei rannu â thrydydd parti (ac eithrio ein darparwr gwasanaeth rhestr bostio - Constant Contact) nac yn cael ei ddefnyddio i anfon e-bost digymell atoch chi.

Google Analytics

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg we a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir ynghylch eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google, a'i storio arnynt, yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau gweithgarwch defnyddiwr ar gyfer y wefan hon. Mae gan Google yr hawl i drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd parti pan mae'n ofynnol gwneud hynny drwy'r gyfraith, neu pan mae trydydd parti o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu'ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall y cadwyd yn flaenorol. Cewch wrthod y defnydd o gwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder os bydd cwcis yn cael eu hanalluogi, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio holl swyddogaethau'r wefan hon. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn caniatáu i Google brosesu data yn eich cylch chi yn y modd a nodir uchod ac at y dibenion a nodir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn Google a'r Telerau Gwasanaeth am wybodaeth fanwl.

Pam ein bod yn casglu ystadegau defnyddwyr?

Drwy ddeall ymddygiad a dewisiadau defnyddwyr, gallwn wella cynnwys ein gwefan i fodloni disgwyliadau ac anghenion defnyddwyr.

Dolenni i safleoedd allanol

Fel y rhan fwyaf o'r safleoedd, mae gwefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnwys dolenni i safleoedd allanol. Dylid nodi bod y polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i'r safle hon yn unig ac ni allwn fod yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych wedi'i rhoi i ni i unrhyw wefan arall.