Neidio i'r prif gynnwy

Telerau defnyddio

Defnydd a Ganiateir

Mae'r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at Gymorth a Chefnogaeth Ap GIG Cymru (y wefan hon). Mae telerau defnyddio ar wahân yn berthnasol ar gyfer Ap GIG Cymru.

Mae ymwelwyr y wefan hon yn cael caniatâd i weld deunyddiau wedi'u cyhoeddi (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo dan y telerau defnyddio.

Er y ceir gweld, lawrlwytho a defnyddio cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudiaeth neu ddefnydd mewnol); ni ddylai ymwelwyr gynhyrchu neu ail-gyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan hon heb ganiatâd gan berchennog y wefan / hawlfraint.

Mae delweddau, logos a deunyddiau graffig sy'n cael eu defnyddio ar y wefan hon yn eiddo i ni a/neu drydydd parti. Ni ddylid defnyddio'r rhain heb gael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod pob hawl eiddo deallusol sy'n ymwneud â'r wefan hon yn perthyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a phryd bynnag sy'n berthnasol, cysylltiadau trydydd parti.

Diogelu rhag Firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd rhag firysau. Wedi dweud hynny, argymhellir chi i redeg rhaglen gwrth-firysau ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, achos o darfu neu ddifrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddaw o'r wefan hon. 

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn fanwl gywir. Wedi dweud hynny, darperir cynnwys ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei defnyddio ar eich menter eich hun yn unig. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu esgeulustod o ddefnyddio'r wybodaeth ar y wefan hon. 

Gwefannau Allanol

Nid yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau y ceir dolenni iddynt. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r cynnwys nac am ganlyniadau yn sgil dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar safleoedd o'r fath.

Ni ddylid ystyried rhestriad yn gymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau y ceir dolenni iddynt neu newid i gyfeiriad gwefan.

Mae gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yr hawl i wrthod dolenni i unrhyw wefan, neu gael gwared arnynt.    

Diwygiadau yn y Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i'r telerau hyn yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon.