Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cymorth a Chefnogaeth Ap GIG Cymru.
Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer Ap GIG Cymru
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- chwyddo'r dudalen hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd y wefan hon wedi'i seilio ar safonau'r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Caiff WCAG eu derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Newid Maint Testun
- Firefox: Ewch i "View" yn y ddewislen > Dewiswch "select text size" / "zoom". Fel arall, daliwch eich bys ar y botwm "Ctrl" ar eich bysellfwrdd a phwyswch y botwm plws (+) i wneud maint y testun yn fwy. I leihau maint y testun, daliwch eich bys ar y botwm "Ctrl" a phwyswch y botwm minws (-).
- Chrome: Pwyswch y tri smotyn yng nghornel dde uchaf y porwr > yn yr adran "Zoom", pwyswch y botwm plws (+) neu finws (-) i wneud maint y testun yn fwy neu'n llai.
- Edge: Pwyswch y tri smotyn yng nghornel dde uchaf y porwr > yn yr adran "Zoom", pwyswch y botwm plws (+) neu finws (-) i wneud maint y testun yn fwy neu'n llai.
Noder y gall gosodiadau porwr newid yn dibynnu ar fersiwn y porwr.
Adborth a rhagor o gymorth
Os ydych chi:
- angen gwybodaeth y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille
- yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon
- yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i: dhcw-enquiries@wales.nhs.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y "rheoliadau hygyrchedd"). Os nad ydych yn fodlon gyda sut ydym yn ymateb i gŵyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)