Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi mynediad cyhoeddus at wybodaeth sy'n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus.

Gwneir hyn mewn dwy ffordd.

  1. Mae'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth benodol ynghylch eu gweithgareddau. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwneud hyn drwy fabwysiadu  Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (PDF).
  2. Mae gan y cyhoedd yr hawl i ofyn am wybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus.

Mae gan y cyhoedd yr hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth wedi'i chofnodi y mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ei chadw.

Mae'n bosibl na fydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gallu darparu'r wybodaeth y gofynnoch amdani os nad ydym yn ei chadw, os ydyw'n berthnasol i un neu fwy o eithriadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu os fyddai'n costio gormod, neu'n hawlio gormod o amser staff, i ymdrin â'r cais.

Cysylltwch â ni

I wneud cais Rhyddid Gwybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost neu drwy’r post.

E-bost

DHCW.FOI@wales.nhs.uk

Drwy'r post
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Tŷ Glan-yr-Afon
21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
Caerdydd
CF11 9AD