Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch Ap GIG Cymru gyda'ch NHS log

Pan fyddwch yn agor Ap GIG Cymru ar eich ffôn, dyfais dabled neu borwr, byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi gan ddefnyddio'ch NHS login. 

Mae NHS login yn eich galluogi i ddefnyddio ystod o wefannau ac apiau iechyd a gofal gydag un set o fanylion mewngofnodi.

Darganfod mwy am NHS login

Dewisiadau iaith ar gyfer NHS login

Nid yw Ap GIG Cymru yn rheoli NHS login. Mae'n wasanaeth ar gyfer y DU gyfan ac ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae ar gael. Wedi i chi sefydlu eich cyfrif neu fewngofnodi, gallwch ddewis defnyddio Ap GIG Cymru yn Gymraeg. 

Beth allwch chi ei wneud gyda NHS login

Os ydych eisoes wedi sefydlu eich NHS login ac wedi cadarnhau pwy ydych, gallwch fewngofnodi a defnyddio Ap GIG Cymru ar unwaith.

Os oes gennych chi NHS login ond nad ydych chi wedi cadarnhau pwy ydych chi, dim ond ar gyfer gwasanaethau GIG Cymru fel GIG 111 Cymru a rhoi gwaed ac organau y gallwch chi ddefnyddio Ap GIG Cymru. 

I gael mynediad at wasanaethau gan eich practis meddyg teulu, bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych. 

Os nad oes gennych chi NHS login, gallwch chi sefydlu un nawr a chadarnhau pwy ydych chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal gan GIG Cymru a’ch practis meddyg teulu.

Sefydlwch eich NHS login

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin o Ap GIG Cymru i fynd i NHS login a sefydlu eich cyfrif.

Bydd gofyn i chi brofi pwy ydych chi gyda phrawf hunaniaeth llun a recordio fideo byr.

Ar ôl i chi gwblhau hwn, gallwch ddychwelyd i Ap GIG Cymru a mewngofnodi. 

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am sut i sefydlu eich NHS login a chael mynediad at yr Ap.

Nodyn: I weld capsiynau caeedig neu drawsgrifiad y fideo hwn, dewiswch yr eicon YouTube ar y fideo. Bydd hyn yn agor gwefan YouTube mewn ffenestr newydd. 

Cael help gyda'ch cyfrif NHS login

I gael help gyda'ch cyfrif NHS login, ewch i Ganolfan Gymorth NHS login.

Yma, cewch wybodaeth am sut i reoli eich cyfrif, gan gynnwys diweddaru eich manylion cyswllt.

Os na allwch ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnoch yn y ganolfan gymorth, cysylltwch â Chymorth NHS login