Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau Meddyg Teulu

Gwasanaeth trefnu apwyntiad ddim ar gael

 

Os nad ydych yn gallu gweld y gwasanaeth trefnu apwyntiad, gallai hynny fod oherwydd nad yw eich practis Meddyg Teulu wedi dewis rhannu’r gwasanaeth hwn gydag ap GIG Cymru eto.

Trefnu apwyntiad

Eich practis Meddyg Teulu sy’n penderfynu pa fath o apwyntiadau sydd ar gael.

  1. Ewch i Apwyntiadau
  2. Dewiswch apwyntiadau practis Meddyg Teulu
  3. Dewiswch trefnu apwyntiad
  4. Dewiswch Pa fath o apwyntiad sydd ei angen arnaf?
  5. Dewiswch Lleoliad
  6. Dewiswch aelod o’r practis (efallai na fydd posib dewis aelod penodol o’r practis)
  7. Dewiswch y dyddiad a’r amser rydych chi eisiau yn Apwyntiadau sydd ar gael
  8. Rhowch reswm dros yr apwyntiad mewn llai na 150 gair                                                                                                      

Os oes angen cymorth arnoch i ddewis yr apwyntiad cywir, neu os oes angen apwyntiad mwy di-oed arnoch, cysylltwch â'ch practis meddyg teulu yn uniongyrchol.

Noder: Byddwn yn cynnwys manylion am ryw eich meddyg teulu a’r ieithoedd maent yn siarad mewn diweddariad yn y dyfodol. 

Rheoli apwyntiadau sydd wedi’u trefnu

Pan fyddwch yn mynd i Apwyntiadau, dylai manylion apwyntiadau sydd wedi’u trefnugael eu dangos. Cysylltwch â’ch practis meddyg teulu’n uniongyrchol os yw manylion apwyntiad rydych yn disgwyl ei weld ar goll.

Os ydych eisiau canslo apwyntiad sydd wedi’i drefnu, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio’r ddolen canslo apwyntiad. Ni fydd manylion yr apwyntiad sydd wedi’i ganslo i’w weld yn yr Ap mwyach.