Gallwch weld rhai atgyfeiriadau rhestr aros yn Ap GIG Cymru.
Mae hyn yn dibynnu ar eich bwrdd iechyd. Efallai y byddwch yn dal i gael llythyr atgyfeirio.
Ni fydd cleifion ym Mwrdd Iechyd Ysbyty Addysgu Powys yn gweld atgyfeiriadau mewn ysbytai yn Lloegr.
Gallwch wirio eich atgyfeiriadau mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych hysbysiadau wedi'u troi ymlaen, fe gewch un pan fydd gennych neges newydd yn yr ap. Dewiswch yr hysbysiad, mewngofnodi i'r ap, a byddwch yn mynd yn syth at y neges. Dilynwch y ddolen yn y neges i weld eich atgyfeiriad yn llinell amser Fy iechyd.
Nid yw hysbysiadau'n gweithio yn fersiwn porwr gwe'r ap.
Dewiswch Gweld fy negeseuon heb eu darllen.
Os oes gennych neges newydd, fe welwch gylch coch wrth ymyl Negeseuon ar eich sgrin hafan. Bydd hyn yn dweud eich bod wedi cael eich ychwanegu at restr aros.
Dewiswch Apwyntiadau, yna atgyfeiriad rhestr aros.
Dewiswch Fy Iechyd, yna llinell amser Fy Iechyd.
Defnyddiwch hidlyddion i ddod o hyd i atgyfeiriadau rhestr aros.
Gall hyn edrych yn wahanol yn dibynnu ar eich bwrdd iechyd a'r gwasanaeth.
I newid neu ganslo atgyfeiriad, dilynwch y cyfarwyddiadau yn nigwyddiad llinell amser iechyd yr ysbyty.
Am ganllawiau gam wrth gam, gwyliwch y fideo atgyfeiriadau ac apwyntiadau ar y rhestr aros ysbyty.