Neidio i'r prif gynnwy

Byrfoddau a geir yn gyffredin mewn cofnodion iechyd

Os welwch chi fyrfodd nad ydych yn ei ddeall, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i’w ystyr yma.

Pwysig

Weithiau mae staff iechyd a gofal yn defnyddio’r un byrfodd i olygu pethau gwahanol. Cysylltwch â’ch darparwr iechyd a gofal os ydych yn gweld byrfodd yn ddryslyd. 

Rhestr o fyrfoddau

A

#

toriad

A&E

Adran Damweiniau ac Achosion Brys (a elwir hefyd yn adran argyfwng)

a.c.

cyn prydau

a.m., am, AM

bore

AF

ffibriliad atrïaidd

AMHP

gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy

APTT

amser thromboplastin rhannol wedi'i actifadu

ASQ

Holiadur Oedran a Chyfnodau

 

B

b.d.s., bds, BDS

2 waith y dydd

b.i.d., bid, bd

dwywaith y dydd / 2 waith y dydd

BMI

mynegai Màs y Corff

BNO

coluddion ddim yn agored

BO

coluddion yn agored

 

C

c/c

prif gŵyn

CMHN

nyrs iechyd meddwl cymunedol

CPN

nyrs seiciatrig gymunedol

CSF

hylif serebro-sbinol

CSU

sampl wrin o gathetr

CT scan

tomograffeg gyfrifiadurol

CVP

pwysedd gwythiennol canolog

CXR

 pelydr-X o'r frest

 

D

DNACPR

Peidiwch â Cheisio Adfywio Cardio-Pwlmonaidd

DNAR

Peidiwch â Cheisio Adfywio

DNR

Peidiwch ag Adfywio

Dr

meddyg

DVT

thrombosis gwythiennau dwfn

Dx

diagnosis

 

E

ECG

electrocardiogram

ED

adran argyfwng

EEG

electro-enseffalogram

EMU

sampl wrin yn gynnar yn y bore

ESR

cyfradd gwaddodi erythrosyt

EUA

archwiliad o dan anesthetig

 

F

FBC

cyfrif gwaed llawn

FY1 FY2

meddyg sylfaen

 

G

GA

anesthetig cyffredinol

gtt., gtt

diferyn/diferion

 

H

h., h

awr

h/o

hanes o

Hb

haemoglobin

HCA

cynorthwyydd gofal iechyd

HCSW

gweithwyr cymorth gofal iechyd

HDL

lipoprotein dwysedd uchel

HRT

therapi adfer hormonau

Ht

taldra

Hx

hanes

 

I (i)

i

1 tabled

ii

2 dabled

iii

3 tabled

i.m., IM

pigiad i mewn i gyhyr

i.v., IV

pigiad yn uniongyrchol i wythïen

INR

cymhareb normaleiddio ryngwladol

IVI

trwythiad mewnwythiennol

IVP

pyelogram mewnwythiennol

Ix

archwiliadau

 

L

LA

anesthetig lleol

LDL

lipoprotein dwysedd isel

LFT

 prawf gweithrediad yr iau

LMP

mislif diwethaf

 

M

M/R

rhyddhau dan reolaeth

MRI

delweddu cyseiniant magnetig

MRSA

Staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll Methisilin

MSU

sampl wrin canol llif

 

N

n.p.o., npo, NPO

dim byd trwy'r geg/nid i’w weinyddu trwy’r geg

NAD

dim byd anarferol wedi’i ddarganfod

NAI

anaf sydd ddim yn ddamweiniol

NBM

dim trwy’r geg

NG

nasogastrig

nocte

bob nos

NoF

gwddf y ffemwr

NSAID

cyffur gwrthlidiol ansteroidaidd

 

O

o.d., od, OD

unwaith y dydd

o/e

ar archwiliad

OT

therapydd galwedigaethol

 

P

p.c.

ar ôl bwyd

p.m., pm, PM

yn y prynhawn neu gyda’r nos

p.o., po, PO

i’w lyncu/trwy’r geg/i’w weinyddu trwy’r geg

p.r., pr, PR

trwy’r rectwm

p.r.n., prn, PRN

yn ôl yr angen (hefyd pertactin, antigen allweddol o’r brechlyn ac. pertussis)

p/c

anhwylder y mae’r claf yn cyflwyno gyda

physio

ffisiotherapydd

POP

plastar Paris

PTT

amser thromboplastin rhannol

PU

wrin wedi’i basio

 

Q

q.

bob

q.1.d., q1d

bob dydd

q.1.h., q1h

bob awr

q.2.h., q2h

bob 2 awr

q.4.h., q4h

bob 4 awr

q.6.h., q6h

bob 6 awr

q.8.h., q8h

bob 8 awr

q.d., qd

bob dydd/yn ddyddiol

q.d.s., qds, QDS

4 gwaith y dydd

q.h., qh

bob awr

q.i.d., qid

4 gwaith y dydd

q.o.d., qod

bob yn ail diwrnod/bob yn eilddydd

q.s., qs

swm digonol (digon)

 

R

RN

nyrs gofrestredig

RNLD

nyrs anabledd dysgu

ROSC

dychwelyd i gylchrediad digymell

RTA

damwain traffig ar y ffordd

Rx

triniaeth

 

S

s.c., SC

pigiad o dan y croen

S/R

yn cael ei ryddhau’n gyson

SLT

therapydd Iaith a Lleferydd

SpR

cofrestrydd Arbenigol

stat.

ar unwaith, heb oedi, nawr

STEMI

cnawdnychiant myocardaidd drychiad segment ST

 

T

t.d.s., tds, TDS

3 gwaith y dydd

t.i.d., tid

3 gwaith y dydd

TCI

i ddod i mewn

TFT

prawf gweithrediad thyroid

TPN

maeth cyflawn drwy'r gwythiennau

TPR

tymheredd, pwls ac anadlu

TTA

i fynd adref

TTO

i fynd allan

U

U&E

wrea ac electrolytau

u.d., ud

fel y cyfarwyddir

UTI

haint y llwybr wrinol

 

V

VLDL

lipoprotein dwysedd isel iawn

VTE

thrombo-emboledd gwythiennol

 

W

wt pwysau

 

Heb ddod o hyd i fyrfodd penodol? 

Cysylltwch â’ch Practis Meddyg Teulu neu fferyllfa.