1.1. Cynhyrchwyd Ap GIG Cymru gan y Rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (“DSPP”).
1.2. Mae DSPP yn cael ei weithredu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Tŷ Glan-yr-Afon, 21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AD, Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd drwy Orchymyn a wnaed o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
1.3. Ewch i wefan DSPP i gael gwybod mwy am ein rôl wefan DSPP .
2.1. Mae Ap GIG Cymru ar gael i’w lawrlwytho fel ap sy’n gweithredu ar ddyfais symudol, neu gellir cyrchu’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig ar wefan.
2.2. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r gwasanaeth a ddarperir gan Ap GIG Cymru sut bynnag y ceir mynediad ato.
2.3. Dylid darllen y Polisi Preifatrwydd hwn ochr yn ochr â Polisi Cwcis .
3.1. Rydym yn cymryd diogelwch eich gwybodaeth bersonol o ddifrif. Mae gan staff GIG Cymru fesurau, polisïau a gweithdrefnau ar waith a fydd yn sicrhau bod:
3.2. Os oes gennych unrhyw bryderon y gallai eich cyfrif fod wedi'i beryglu (er enghraifft, pryder y gallai rhywun fod wedi darganfod eich cyfrinair), dilynwch y cyfarwyddiadau ar nghanllaw cymorth a chefnogaeth GIG Cymru
4.1. Mae Ap GIG Cymru yn casglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi, ar gyfer y dibenion a ddisgrifir isod. Mae DSPP yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus i gefnogi gofal iechyd yng Nghymru. Gall y wybodaeth hon gynnwys gwybodaeth am eich iechyd.
Math o wybodaeth |
Diben |
---|---|
Gwybodaeth adnabod, yn cynnwys eich rhif GIG |
Gwybodaeth mewngofnodi a rheoli defnyddwyr Ap GIG Cymru - fel y disgrifir isod |
Manylion technegol am eich defnydd o Ap GIG Cymru |
Rheoli Ap GIG Cymru - gweler ein polisi cwcis yn |
Manylion am eich gofal iechyd pan gânt eu cynnwys mewn neges a anfonir trwy’r ap |
Eich gofal iechyd, a darpariaeth gwasanaeth yn defnyddio’r ap, megis negeseuon gan eich meddygfa |
Gwybodaeth am eich cyfrif a manylion mewngofnodi os ydych yn gwneud cais am gefnogaeth |
Cefnogi eich defnydd o Ap GIG Cymru |
Manylion am eich symptomau neu gyflyrau |
Darparu gwasanaethau gofal iechyd megis gwiriwr symptomau, apwyntiadau, atgyfeiriadau neu bresgripsiynau |
Manylion am frechiadau a meddyginiaethau |
Darparu gwasanaethau gofal iechyd |
Ein cais am eich cysyniad i gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr |
Cefnogi Ap GIG Cymru |
4.2. Mae rhywfaint o wybodaeth a gesglir gan Ap GIG Cymru yn cael ei chasglu gan DSPP lle mae'n darparu gwasanaethau i gyrff eraill GIG Cymru, megis Byrddau Iechyd Lleol sy'n ymwneud â'ch gofal. Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am gasglu a defnyddio’r data hwn ac mae eu polisïau sy’n disgrifio sut maent yn defnyddio’ch gwybodaeth wedi’u nodi Hysbysiad Preifatrwydd Atodiad A
4.3. Mae Ap GIG Cymru yn defnyddio NHS Login i ddilysu eich hunaniaeth.
4.4. Rheolir NHS Login gan NHS Digital o Wellington Place, Leeds, LS1 4AP, sy’n gorff cyhoeddus anadrannol.
4.5. NHS Digital sy’n pennu dibenion a defnyddiau unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych i gael cyfrif GIG a gwirio pwy ydych, ac mae’n defnyddio’r wybodaeth bersonol honno at y diben hwnnw ac fel y disgrifir yn Hysbysiad Preifatrwydd NHS Digital sydd.
4.6. Bydd lefel y gwasanaethau y gallwch gael mynediad atynt yn Ap GIG Cymru yn dibynnu ar lefel y dilysu hunaniaeth NHS Login.
5.1. Lle mae eich dyfais symudol yn caniatáu hynny, gallwch ddefnyddio dulliau dilysu nad ydynt yn defnyddio cyfrinair, fel ôl bys neu adnabod wyneb, i gael mynediad at Ap GIG Cymru.
5.2. Mae argaeledd y math hwn o ddilysiad yn dibynnu ar y dechnoleg sydd ar gael ar eich dyfais. Nid oes gennym fynediad at y data biometrig sy’n cael ei storio ar eich dyfais, na rheolaeth drosto.
6.1. Gallwch ddewis troi hysbysiadau gwthio ymlaen i roi gwybod i chi am dderbyn negeseuon a anfonwyd trwy Ap GIG Cymru. Gall y swyddogaeth hon amrywio o ddyfais i ddyfais.
6.2. Gallwch optio allan o gael hysbysiadau gwthio ar unrhyw adeg. Gall negeseuon barhau i gael eu hanfon a bod ar gael drwy Ap GIG Cymru p’un a yw hysbysiadau gwthio wedi’u troi ymlaen ai peidio, ond gallai optio allan gyfyngu ar y mathau o negeseuon y gallwch eu derbyn. Er enghraifft, gallai negeseuon yn ymwneud â’ch iechyd a’ch gofal barhau i gael eu hanfon trwy ddulliau eraill.
6.3. Os byddwch yn defnyddio’r Ap GIG Cymru ar fwy nag un ddyfais, mae’n rhaid i chi droi hysbysiadau gwthio ymlaen ar bob dyfais.
6.4. Os ydych yn rhannu’r ddyfais y byddwch yn ei defnyddio i fewngofnodi i Ap GIG Cymru gyda phobl eraill, efallai y byddant yn gweld eich hysbysiadau.
6.5. Un defnyddiwr Ap GIG Cymru sy’n gallu cael hysbysiadau ar bob dyfais. Os bydd mwy nag un person yn mewngofnodi i Ap GIG Cymru ar ddyfais, bydd y defnyddiwr sydd wedi galluogi hysbysiadau ar y ddyfais honno yn fwyaf diweddar yn eu derbyn, a bydd unrhyw ddefnyddwyr eraill yn rhoi’r gorau i’w derbyn.
6.6. Nid ydym yn anfon hysbysiadau am negeseuon a anfonir gan ddefnyddio’r gwasanaeth negeseuon rhwng y claf a’i feddygfa (a elwir yn y gwasanaeth negeseuon meddygfa yn Ap GIG Cymru).
7.1. Hoffem gysylltu â chi ynghylch cymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr i wella Ap GIG Cymru a gwasanaethau cysylltiedig. Byddwn yn gofyn i chi a hoffech ymuno â’n panel ymchwil defnyddwyr pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Ap GIG Cymru neu’n mewngofnodi yn dilyn hynny. Os byddwch yn dewis gwneud hynny, byddwn yn e-bostio arolwg byr atoch ynglŷn â chi a’ch iechyd. Bydd eich atebion yn helpu i sicrhau ein bod yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr sy’n berthnasol i chi. Byddwn hefyd yn gofyn i chi a ydych eisiau cael ein cylchlythyr ymchwil defnyddwyr.
7.2. Ar ôl i chi gofrestru, efallai y byddwn yn gofyn i chi:
7.3. Gallwch bob amser wrthod gwahoddiad a gallwch adael y panel ymchwil defnyddwyr ar unrhyw adeg.
7.4. Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion ymchwil defnyddwyr pan fyddwch wedi cytuno i ddarparu’r wybodaeth i ni. Os nad ydych bellach eisiau i ni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffordd hon, gallwch roi gwybod i ni yn
8.1. Fel y disgrifiwyd ym mharagraff 4, mae Ap GIG Cymru yn rhoi gwybodaeth i gyrff eraill sy’n gysylltiedig â’ch gofal iechyd.
8.2. Cefnogir ein gwasanaethau gan dechnoleg a darparwyr gwasanaeth eraill sy’n darparu eu gwasanaethau i ni trwy gontract. Dim ond lle bo angen er mwyn darparu eu gwasanaethau y maent yn cyrchu eich gwybodaeth, ac maent yn ddarostyngedig i'r un gofynion o ran diogelwch a thrin eich gwybodaeth ag yr ydym ni. Ni chaniateir iddynt brosesu eich gwybodaeth y tu allan i’r DU.
8.3. Efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd partïon os yw'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
8.4.Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r DU.
9.1. Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sydd ei angen arnom er mwyn cyflawni’r dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer ac i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
9.2. Os byddwn yn casglu eich gwybodaeth oherwydd ein bod yn gweithio i gorff arall, fel Bwrdd Iechyd Lleol neu NHS Digital, mae eu polisi preifatrwydd yn disgrifio pa mor hir y mae angen iddynt gadw eich gwybodaeth.
10.1. Darnau o ddata yw cwcis, maent yn cael eu creu pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae Ap GIG Cymru yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth pan fyddwch yn chwilio am dudalennau gwe penodol ac yn edrych arnynt. Gallwch osod eich dyfais i beidio â derbyn cwcis. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai o nodweddion y safle oherwydd mae angen i ni gofnodi eich dewisiadau er mwyn rhedeg Ap GIG Cymru yn effeithiol yn ystod eich ymweliad.
10.2. Mae gan Ap GIG Cymru Bolisi Cwcis ar wahân Polisi cwcis.
11.1. O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:
11.2. Gallwch arfer eich hawliau drwy gysylltu â ni, neu’r corff sy’n rheoli’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, fel y disgrifir isod.
12.1. Dylid gwneud ymholiadau neu gwynion mewn perthynas â gwasanaethau unigol yn uniongyrchol i’r gwasanaeth hwnnw. Mae gwybodaeth bellach wedi’i chynnwys yn Hysbysiad Preifatrwydd DSPP.
12.2. Byddwn yn ymchwilio ac yn ceisio datrys unrhyw wrthwynebiadau preifatrwydd data yn ymwneud ag Ap GIG Cymru.
12.3. Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i ganiatáu i chi arfer eich hawliau cyn gynted â phosibl ac o fewn yr amserlenni a ddarperir gan gyfreithiau diogelu data.
12.4. Gweler ein Hysbysiad preifatrwydd Ap GIG Cymru
Gall ein Polisi Preifatrwydd newid o bryd i'w gilydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi gan ddefnyddio Ap GIG Cymru os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’n Polisi Preifatrwydd, polisi cwcis neu delerau defnydd.