Mae'r Rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP), sy'n cael ei rhedeg gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wedi dechrau gweithio ar Ap GIG Cymru. Drwy'r Ap, bydd pobl yng Nghymru yn gallu defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal drwy eu ffonau clyfar neu lechi.
Mae bod yn onest, a chynnig gwybodaeth agored i unigolion ynghylch sut allwn ddefnyddio eu data personol yn elfen holl bwysig o'r Ddeddf Diogelu Data (DPA) a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR). Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ymddiriedaeth a hyder yn ein gallu i brosesu'ch gwybodaeth bersonol.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wasanaethau craidd DSPP. Bydd gan y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan sefydliad iechyd a gofal partner, sydd ar gael drwy'r ap, hysbysiadau preifatrwydd ar wahân. Mae gwybodaeth preifatrwydd ychwanegol sy’n berthnasol i DSPP a dolenni i’r hysbysiadau preifatrwydd sy’n ymwneud â gwasanaethau eraill wedi’u cynnwys yn Atodiad A
Rheolydd Ap GIG Cymru at ddibenion GDPR y DU yw:
Iechyd a Gofal Digidol CymruDarperir hysbysiadau preifatrwydd ar wahân ar gyfer y gwasanaethau sydd ar gael drwy Ap GIG Cymru.
Os ydych yn defnyddio'n gwasanaeth gyda'ch manylion NHS Login, mae'r gwasanaethau dilysu hunaniaeth yn cael eu rheoli gan NHS Digital.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi gwneud cais o'r enw '"Cais NHS Login ar gyfer Ap GIG Cymru 202", yn unol â s255 o'r Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dyma gais i NHS Digital ddarparu Gwasanaeth NHS Login yn unswydd er mwyn cefnogi mynediad at Ap GIG Cymru. Golyga hyn bod NHS Digital ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyd-reolyddion ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch chi'n ei chyflwyno i NHS Digital er mwyn cael cyfrif NHS Login ac i ddilysu eich hunaniaeth. Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei chyflwyno i ni ar wahân.
Gweld telerau ac amodau NHS Login
Gweld Hysbysiad Preifatrwydd Mewngofnodi GIG a Thelerau ac Amodau
Gallwch lawrlwytho manylion llawn y trefniant rheolydd ar y cyd rhwng GIG Lloegr a Digidol Iechyd a Gofal Cymru (PDF, 193KB)
Y Swyddog Diogelu Data ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw:
Darren LloydMae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi penodi prosesydd. Dyma fanylion y prosesydd:
Kainos Group PlcMae'n rhaid i ni gael sail gyfreithiol er mwyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru allu prosesu data personol. Pan mae'n ofynnol i ni brosesu gwybodaeth ar Ap y GIG, rydym yn gwneud hynny fel rhan o'n Tasg Gyhoeddus (Erhygl 6 1(e) yr GDPR y DU) er mwyn cynnig gwasanaethau iechyd a gofal i'r cyhoedd.
Mae Ap GIG Cymru hefyd yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi, megis gwybodaeth am eich iechyd neu'ch ethnigrwydd. Gelwir y math hon o wybodaeth yn Ddata Categori Arbennig dan GDPR y DU. Mae'n rhaid i ni gydnabod amod penodol er mwyn prosesu'r math hon o wybodaeth. Byddwn yn defnyddio'r data hwn ar gyfer:
Isod, gweler manylion ynghylch y mathau o Ddata Personol a Data Personol Categori Arbennig rydyn ni'n ei brosesu.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyflogi Kainos i ddatblygu'r Ap.
Gallai’r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu gynnwys y canlynol manylion personol, gan gynnwys:
Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif, a elwir yn Ddata Categori Arbennig a allai gynnwys:
Ceir fwy o wybodaeth yn ein polisi preifatrwydd
Byddwn yn rhannu'ch data gyda'r rheiny sy'n cynnig gwasanaethau iechyd a gofal i chi drwy'r ap. Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddwn yn rhannu data rydych chi'n ei fewnbynnu heb eich caniatâd.
Os byddwch wedi optio i rannu gwybodaeth gyda ffrind neu aelod o'r teulu sy'n gweithredu ar eich rhan, byddwn yn rhannu'r wybodaeth honno, yn ôl eich cyfarwyddyd chi, gan ddefnyddio Ap GIG Cymru ar eu dyfais.
Ni fydd eich data yn cael ei gadw gan Ap GIG Cymru. Cedwir peth ddata am hunaniaeth dros dro er mwyn galluogi'r ap i weithio'n gywir.
Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo na'i chadw mewn unrhyw wlad nad oes ganddi amddiffyniad diogelwch digonol at ddibenion GDPR y DU.
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:
Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw gost am arfer eich hawliau. Os ydych yn gwneud cais, mae gennym un mis i ymateb i chi.
Os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym ni'n prosesu'ch gwybodaeth bersonol, neu'n anhapus ag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu'r ffordd mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan DSPP, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data ar gyfer DSPP. Os oes gennych bryderon ynghylch y gwasanaeth unigol, cysylltwch â'r sefydliad sy'n cynnig y gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd wedi'u cynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.
Os ydych dal yn anhapus, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Gwasanaethau | Disgrifiad o'r gwasanaeth | Dolen at y wybodaeth ynglŷn â phreifatrwydd |
---|---|---|
Gwasanaethau Meddyg Teulu |
|
Siaradwch â'ch meddygfa neu edrychwch ar eu gwefan |
Gwasanaethau | Disgrifiad o'r gwasanaeth | Dolen at y wybodaeth ynglŷn â phreifatrwydd |
---|---|---|