Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi adborth am Ap GIG Cymru

Mae rhoi adborth i ni am Ap GIG Cymru yn ein helpu i wella’r gwasanaeth a ddarparwn. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ni os oes problem dechnegol y mae'n rhaid i ni ei thrwsio.

Peidiwch â defnyddio'r swyddogaeth adborth os oes angen cyngor iechyd arnoch neu os oes gennych argyfwng meddygol. Defnyddiwch 111 Cymru drwy’r Ap hwn, neu ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999.

Mae'n hawdd rhoi adborth i ni trwy ddefnyddio'r botwm Adborth tra'ch bod chi'n defnyddio'r Ap.

Tra byddwch yn defnyddio'r Ap fe welwch fotwm o'r enw Adborth. Dewiswch y botwm a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Os na allwch weld y botwm adborth yn yr App

Nid yw'r botwm adborth yn gweithio oni bai eich bod wedi caniatáu cwcis dadansoddol dewisol.

Ffeiliau bach yw cwcis a ddefnyddir yn eang i wneud i wefannau ac apiau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwasanaethau a swyddogaethau i ddefnyddwyr. Darganfod mwy am gwcis

Os na allwch weld y botwm adborth, gwiriwch eich bod wedi troi cwcis dadansoddol dewisol ymlaen. I wneud hyn:

  1. Ewch i Mwy .
  2. Dewiswch Cyfrif a gosodiadau .
  3. Dewiswch Legal and cookies .
  4. Yna dewiswch Rheoli cwcis .
  5. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis Caniatáu cwcis dadansoddol dewisol .
Os nad ydych am ganiatáu cwcis dadansoddol dewisol

Os nad ydych am ganiatáu cwcis dadansoddol dewisol, ni allwch anfon adborth trwy'r Ap. Anfonwch adborth drwy'r arolwg ar-lein .

Sgrinluniau 

Os bydd angen i chi roi adborth, efallai y byddwn yn gofyn i chi lanlwytho sgrinlun (er enghraifft, sgrin gwall). Mae hyn yn ddewisol, felly byddwch chi’n gallu gadael adborth heb lanlwytho sgrinlun. 

Mae sgrinlun yn tynnu llun o’r hyn sydd ar sgrin eich dyfais ar y pryd. Isod mae dolenni i ganllawiau ar gyfer tynnu sgrinluniau, sy'n wahanol yn dibynnu ar y ddyfais a'r systemau gweithredu a ddefnyddir.  

Pan ofynnir i chi lanlwytho sgrinlun, efallai y bydd angen i chi ganiatáu mynediad i Ap GIG Cymru i storfa eich dyfais.  

Sylwch: dim ond un sgrinlun y gallwch chi ei lanlwytho ar y tro a rhaid i'r ffeil fod yn llun, nid yn recordiad fideo.  

Ffonau Google Pixel a Nexus 

Canllaw Google ar gyfer tynnu sgrinlun ar ffôn Pixel 

Gall y broses hon weithio ar gyfer llawer o ddyfeisiau Android eraill 
Ffonau a llechi Samsung  Canllaw Samsung ar gyfer tynnu sgrinluniau ar amrywiaeth o'u dyfeisiau 
Dyfeisiau Apple 

Canllaw Apple ar gyfer tynnu sgrinluniau ar wahanol fodelau iPhone 

Canllaw Apple ar gyfer tynnu sgrinluniau ar wahanol fodelau iPad 
Windows 10 ac 11  Canllaw Microsoft ar gyfer defnyddio Snipper Tool i dynnu sgrinluniau 
Apple MacOS  Canllaw Apple ar gyfer tynnu sgrinlun ar eich dyfais MacOS (Macbook, iMac, Mac Mini a mwy)