Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd Ap GIG Cymru

Mae’r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ap GIG Cymru. Mae hefyd yn berthnasol pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif GIG.

Mae ap GIG Cymru yn cael ei redeg gan GIG Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu ei ddefnyddio.

Gallwch gael mynediad at Ap GIG Cymru ar gyfer dyfeisiau Apple IOS ac Android. Ar y dyfeisiau hyn gallwch ddefnyddio’r nodweddion canlynol:

Gallwch hefyd fewngofnodi trwy ddefnyddio gwefan GIG Cymru. Gallwch wneud hyn o borwr gwe ar eich bwrdd gwaith, gliniadur, ffôn symudol neu lechen. Roedd hwn yn arfer cael ei alw'n Fy Iechyd Ar-lein. Dylech fedru:

  • newid lliwiau, lefelau'r cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo'r dudalen hyd at 200% gyda’r testun yn parhau i fod yn weladwy ar y sgrin
  • lywio gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • llywio gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • darllen gan ddefnyddio darllenydd sgrin gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver

 

Rydym wedi gwneud y testun yn Ap GIG Cymru mor syml â phosibl i’w ddeall, gan anelu at oedran darllen rhwng 9 ac 11 oed.

Os oes gennych anabledd, AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio.

I ddefnyddio Ap GIG Cymru mae angen i chi greu NHS Login. Ewch i  Ddatganiad hygyrchedd NHS Login .