Os yw eich practis meddyg teulu wedi rhoi mynediad, efallai y byddwch chi’n gallu gweld crynodeb o’ch cofnod iechyd yn Ap GIG Cymru. Yn gyffredinol, bydd hyn yn cynnwys rhestr o feddyginiaethau gyda’u teitlau, pryd y cawsant eu rhagnodi, ac unrhyw alergeddau rydych chi wedi dweud wrth eich meddyg teulu amdanynt. Gall meddyginiaethau gynnwys meddyginiaethau rheolaidd rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd ac unrhyw feddyginiaethau rydych chi wedi stopio eu cymryd.
Yr enw ar hwn yw eich Cofnod Gofal Cryno (SCR).
Gallwch ofyn i’ch practis ddangos rhagor o wybodaeth i chi yn yr Ap. Gelwir hyn yn gofnodion manwl wedi’u codio (DCR). Y practis sy’n penderfynu a ydyn nhw’n cymeradwyo eich cais a faint o wybodaeth maen nhw’n caniatáu i chi ei gweld. Efallai y byddwch chi’n gallu gweld:
Nid yw’n bosibl lawrlwytho’r cofnod cyfan o’ch NHS login ar hyn o bryd. Cysylltwch â’ch practis meddyg teulu i gael gwybodaeth fanylach am eich cofnod.
Os yw’r wybodaeth yn eich cofnod iechyd meddyg teulu yn anghywir, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu. Byddan nhw’n gallu diweddaru’r wybodaeth bersonol yn eich cofnod, fel eich cyfeiriad. Gallwch ddiweddaru’r cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn sydd gan eich practis meddyg teulu yn Ap GIG Cymru. Mae dewisiadau cyfathrebu yn esbonio sut i wneud hyn.
Nodwch efallai nad yw’r cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn sydd gan eich practis meddyg teulu’r un rhai ag y defnyddioch i fewngofnodi i Ap GIG Cymru. Os byddwch yn newid y cyfeiriad e-bost a gedwir gan eich practis meddyg teulu, ni fydd yn newid y manylion mewngofnodi. Bydd angen i chi fynd i NHS login i wneud unrhyw newidiadau i’ch manylion mewngofnodi.
Os nad yw’r cofnod cyfan yn perthyn i chi, dylech gysylltu â’ch practis meddyg teulu ar unwaith.
Cysylltwch â’ch practis meddyg teulu os oes rhywbeth ar goll o’ch cofnod iechyd meddyg teulu. Efallai ei fod ar goll oherwydd nad oes gennych fynediad at yr holl wybodaeth yn eich cofnod.
Rhestr o’r byrfoddau a ddefnyddir yn gyffredin.