Neidio i'r prif gynnwy

Darparwyr trydydd parti

Efallai bod eich bwrdd iechyd wedi dewis defnyddio darparwyr trydydd parti i ddarparu rhai gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae darparwyr gwasanaethau trydydd parti yn sefydliadau sy’n gweithio gyda GIG Cymru, er enghraifft Porth Cleifion Bae Abertawe, a ddarperir gan Patients Know Best.

Mae Ap GIG Cymru yn darparu dolenni i’r gwasanaethau hyn ond nid yw’n eu rheoli. Bydd yr Ap bob amser yn dweud wrthych chi pan fyddwch chi’n mynd i wasanaeth a ddarperir gan drydydd parti.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am wasanaethau darparwyr trydydd parti, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd.