Mae Fy Nghofnod Iechyd yn eich galluogi i greu cofnod personol ysgrifenedig eich hun yn Ap GIG Cymru. Gallwch ysgrifennu unrhyw wybodaeth amdanoch chi'ch hun a'ch iechyd, hyd at 4,000 o nodau i gyd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio’n ddiogel yn Ap GIG Cymru a dim ond chi sydd â mynediad iddi. Nid yw'r wybodaeth a ddarperir gennych yn y cofnod yn cael ei hanfon at eich Practis Meddyg Teulu na gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill.
Cyrchu Fy Nghofnod Iechyd a chreu cofnod
Noder: Ni ellir golygu cofnodion ar ôl eu cyflwyno.
Cyflwynir Fy Nghofnod Iechyd fel testun glân. Ni allwch fewnosod delwedd nac eitemau eraill nad ydynt yn destun. Os byddwch yn mewnosod dolen, bydd yn ymddangos fel testun ac ni fydd yn gweithredu fel hyperddolen.
Gellir copïo testun o ffynonellau eraill i'r cyfnodolyn, yn amodol ar allu eich dyfais. Nid ydym yn gyfrifol am gywirdeb nac ansawdd y cynnwys a gopïwyd o ffynonellau allanol.
Defnydd enghreifftiol o Fy Nghofnod Iechyd
Defnyddio Fy Llinell Amser Iechyd i chwilio am gofnodion
Gellir defnyddio Fy llinell amser iechyd i chwilio am gofnodion o’r gorffennol ac yn y dyfodol – gweler tudalen gymorth Fy Llinell Amser Iechyd i gael rhagor o wybodaeth.
Trwy Fy Llinell Amser Iechyd, gallwch hefyd chwilio teitlau cofnodion yn ôl allweddair. Wrth lunio’ch cofnodion, efallai y byddwch wedyn yn ystyried pa eiriau neu ymadroddion fyddai fwyaf addas ar gyfer chwilio yn y dyfodol. Nid yw Fy Llinell Amser Iechyd yn caniatáu ichi chwilio am eiriau neu ymadroddion mewn disgrifiad o gofnod, felly bydd creu teitlau disgrifiadol a manwl o gofnodion yn fwy buddiol wrth chwilio.
Dileu cofnod yn Fy Nghofnod Iechyd
Noder: Mae dileu cofnod personol yn barhaol ac ni ellir ei ddadwneud.