Neidio i'r prif gynnwy

Llinell amser fy iechyd

Mae "Llinell amser fy iechyd" yn ffordd o weld eich holl gofnodion mewn un lle, wedi'u trefnu yn ôl dyddiad neu fath. Mae hon yn nodwedd newydd sy'n cael ei phrofi mewn dau bractis meddyg teulu ar gyfer apwyntiadau gyda’r meddyg teulu.

Gallwch ddod o hyd i’r cofnodion canlynol yn y dyfodol yn ‘Llinell amser fy iechyd’:

  • dogfennau (fel llythyrau atgyfeirio)
  • apwyntiadau meddyg teulu o’r gorffennol
  • apwyntiadau meddyg teulu sydd ar ddod
  • apwyntiadau ysbyty o’r gorffennol
  • apwyntiadau ysbyty sydd ar ddod
  • canlyniadau profion gan eich meddyg teulu a'r ysbyty
  • brechiadau (imiwneiddiadau)
  • Nodiadau ‘Fy nghyfnodolyn iechyd’

Gallwch chwilio am gofnodion yn ôl y math o gofnod neu yn ôl ystod dyddiad, neu gallwch ddefnyddio'r “chwiliad allweddair” sy'n eich galluogi i chwilio gan ddefnyddio geiriau neu ymadroddion sy'n ymwneud â'r cofnod.

Gall y llinell amser fod yn ddefnyddiol os ydych am weld cyfres o wybodaeth gysylltiedig am un mater iechyd mewn un lle. Os ydych am weld a rheoli eich apwyntiadau yn unig gallwch wneud hyn drwy'r llinell amser neu'r Apwyntiadau, ond os ydych am weld apwyntiadau yn ogystal â chanlyniadau a llythyrau, gallwch ddefnyddio'r llinell amser.

Beth os na allaf weld cofnodion yn y llinell amser?

Bydd ‘Llinell amser fy iechyd’ ond yn cynnwys gwybodaeth os ydynt wedi cael eu rhannu i’r Ap gan eich darparwr iechyd a gofal.