I reoli eich penderfyniad ynghylch rhoi organau, mewngofnodwch i Ap GIG Cymru a:
Os nad ydych wedi cofrestru eich penderfyniad, bydd dewis tudalen Fy mhenderfyniad i roi organau yn mynd â chi i Gofrestr Rhoi Organau'r GIG lle gallwch gofnodi eich penderfyniad.
Rydym yn ymwybodol y gallai rhai pobl gael neges gwall wrth gyflwyno’r ffurflen rhoi organau. Rydym yn gweithio i ddatrys hyn. Os cewch neges gwall wrth gyflwyno’r ffurflen, gallwch barhau i gofrestru eich penderfyniad ar wefan Cofrestr Rhoi Organau’r GIG.
Os ydych chi wedi cofrestru penderfyniad ac yn defnyddio'r Ap, fe welwch chi eich penderfyniad cyfredol. Gallwch newid a thynnu eich penderfyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Os ydych chi wedi cofrestru penderfyniad ac yn defnyddio'r Ap ar borwr gwe, byddwch chi'n mynd i Gofrestr Rhoi Organau'r GIG lle gallwch chi newid eich penderfyniad.
Os nad ydych chi wedi'ch gwirio'n llawn ar gyfer yr Ap, pan fyddwch chi'n dewis Fy mhenderfyniad i roi organau gan ddefnyddio'r Ap neu borwr gwe, byddwch chi'n mynd i Gofrestr Rhoi Organau'r GIG lle gallwch chi gofrestru neu newid eich penderfyniad.
Bydd cadw eich penderfyniad cofrestru yn gyfredol yn helpu eich teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wybod pa benderfyniad rydych chi wedi'i ddewis.
Mae'r Ap hefyd yn darparu dolen i Wasanaeth Gwaed Cymru.
Am ragor o wybodaeth am roi rhai, neu'ch holl organau, gweler y canllawiau rhoi organau a meinweoedd (Llywodraeth Cymru).
Os nad ydych wedi cofrestru penderfyniad i roi organau neu feinweoedd, tybir eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Gelwir hyn ynganiatâd tybiedig.
Tybir bod organau’n cael eu rhoi os:
Gallwch ddefnyddio'r ddolen yn Ap GIG Cymru i adolygu, rheoli a diweddaru eich penderfyniad.
Mae gan wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru wybodaeth ynghylch a allwch chi roi gwaed, celloedd bonyn a phlatennau. Mae hefyd yn egluro sut a ble i roi.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru gallwch chi nodi eich cod post i ddod o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.