Pan fyddwch yn agor Ap GIG Cymru ar eich ffôn, dyfais dabled neu borwr, byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi gan ddefnyddio'ch NHS login.
Mae NHS login yn eich galluogi i ddefnyddio ystod o wefannau ac apiau iechyd a gofal gydag un set o fanylion mewngofnodi.
Nid yw Ap GIG Cymru yn rheoli NHS login. Mae'n wasanaeth ar gyfer y DU gyfan ac ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae ar gael. Wedi i chi sefydlu eich cyfrif neu fewngofnodi, gallwch ddewis defnyddio Ap GIG Cymru yn Gymraeg.
Os ydych eisoes wedi sefydlu eich NHS login ac wedi cadarnhau pwy ydych, gallwch fewngofnodi a defnyddio Ap GIG Cymru ar unwaith.
Os oes gennych chi NHS login ond nad ydych chi wedi cadarnhau pwy ydych chi, dim ond ar gyfer gwasanaethau GIG Cymru fel GIG 111 Cymru a rhoi gwaed ac organau y gallwch chi ddefnyddio Ap GIG Cymru.
I gael mynediad at wasanaethau gan eich practis meddyg teulu, bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych.
Os nad oes gennych chi NHS login, gallwch chi sefydlu un nawr a chadarnhau pwy ydych chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal gan GIG Cymru a’ch practis meddyg teulu.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin yn Ap GIG Cymru i fynd i NHS login a chreu eich cyfrif. Bydd gofyn i chi brofi pwy ydych chi.
I ddefnyddio Ap GIG Cymru, mae’n rhaid i chi:
Mae dilysu dau gam yn ddull diogelwch sy’n gofyn am ddau ddull adnabod gwahanol i wirio hunaniaeth defnyddiwr cyn rhoi mynediad i adnoddau a data.
Mae dau opsiwn i wirio pwy ydych chi:
I wirio pwy ydych chi gan ddefnyddio NHS login, bydd angen i chi gyflwyno ID llun derbyniol a recordio fideo byr.
ID llun derbyniol ar gyfer NHS login:
Defnyddio ID llun i brofi pwy ydych chi
Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am sut i greu eich cyfrif NHS login a chael mynediad i’r Ap.
Noder: I weld capsiynau caeedig neu’r trawsgrifiad ar gyfer y fideo hwn, dewiswch yr eicon YouTube yn y fideo. Bydd hyn yn agor gwefan YouTube mewn ffenestr newydd.
Ar ôl i chi orffen, gallwch ddychwelyd i Ap GIG Cymru a mewngofnodi.
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi fynd â dau ddull adnabod i’ch practis meddyg teulu. Dyma ffordd arall i gleifion nad oes ganddynt y dogfennau adnabod angenrheidiol ar gyfer NHS login i wirio eu hunaniaeth.
Fel rhan o’r broses, fel arfer bydd angen i chi fynd i’r practis yn bersonol, lle bydd gofyn i chi lenwi ffurflen. Os ydych chi’n anabl ac yn methu mynd i’r practis, trafodwch yr opsiynau gyda’ch practis.
Unwaith y bydd eich practis wedi gwirio eich hunaniaeth, bydd yn rhoi llythyr dilysu hunaniaeth i chi. Yna bydd rhaid i chi gwblhau’r holl gamau gyda NHS login.
Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am sut i greu eich NHS login gyda Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru.
Bydd gofyn i chi roi dwy ddogfen i’ch practis. Rhaid i un ohonynt fod yn ID llun.
O’r tabl isod bydd angen i chi ddarparu dau ddull adnabod a restrir yng ngholofnau B neu C yn y tabl isod, neu un dull o golofn A ac un dull o golofn B neu C.
Dangosir y dystiolaeth a dderbynnir yn y safon a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y tabl isod.
Colofn A Dull Adnabod Ffotograffig |
Colofn B Dull Adnabod Ffotograffig |
Colofn C Dull Adnabod Ffotograffig |
---|---|---|
Dogfen deithio gan y Swyddfa Gartref:
|
Pasbortau sy’n bodloni manylebau’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO) ar gyfer dogfennau teithio y gellir eu darllen gan beiriannau, megis pasbort De Affrica. | Pasbortau biometrig sy’n bodloni manylebau ICAO ar gyfer e-basbortau, fel pasbort y DU. |
Cardiau teithio a gyhoeddwyd gan y llywodraeth neu awdurdod lleol fel y’u cyhoeddwyd yn y DU (er enghraifft, Tocyn Rhyddid). | Cardiau adnabod o wlad yr UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sy’n dilyn safonau Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2252/2004. | Cardiau adnabod o wlad yr UE neu’r AEE sy’n dilyn safonau Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2252/2004 ac sy’n cynnwys gwybodaeth fiometrig. |
Trwyddedau gyrru cerdyn-llun y DU. | Hawlen breswylio fiometrig y DU. | |
Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i Rywun 60 a Throsodd. | Trwyddedau gyrru’r UE neu’r AEE sy’n dilyn Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2006/126/EC. | |
Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl. | ||
Tystysgrif addysg gan sefydliad addysgol a reoleiddir a chydnabyddedig (fel NVQ, SQA, TGAU, Lefel A neu dystysgrif gradd). | Cerdyn Pasbort yr UD. | |
Tystysgrif geni neu fabwysiadu. | Cerdyn clyfar gyrrwr tacograff digidol | |
Bathodyn Glas. | Cerdyn adnabod y lluoedd arfog. | |
Hunaniaeth electronig ‘sylweddol’ o gynllun eIDAS hysbysedig. | Cerdyn prawf oedran a gydnabyddir dan PASS gyda chyfeirnod unigryw. | |
Cerdyn prawf oedran a gydnabyddir o dan y Cynllun Safonau Prawf Oedran (PASS). | Hunaniaeth electronig ‘uchel‘ o gynllun eIDAS hysbysedig. | |
Tystysgrif dryll. | ||
Dull Adnabod arall | Dull Adnabod arall | Dull Adnabod arall |
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil. | Dogfen adnabod etholiadol y DU (er enghraifft, Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr). | |
Tystysgrif addysg gan sefydliad addysgol a reoleiddir a chydnabyddedig (fel NVQ, SQA, TGAU, Lefel A neu dystysgrif gradd). | Cyfrif cyfredol banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd (y gall yr hunaniaeth honedig ei ddangos trwy roi cerdyn banc i chi). | |
Tystysgrif geni neu fabwysiadu. | Cyfrif benthyciad myfyriwr. | |
Cyfrif credyd nwy neu drydan. | Cyfrif credyd. | |
Cytundeb rhentu neu brynu ar gyfer eiddo preswyl. | Cyfrif benthyciad (gan gynnwys cyfrifon hurbwrcasu). | |
Bathodyn Glas. |
Os nad oes gennych ddull adnabod ffotograffig nac unrhyw un o’r dogfennau yn y tabl uchod, efallai y bydd eich practis yn dal i allu gwirio pwy ydych chi trwy dystio mai chi yw pwy ydych chi.
Dylech gysylltu â’r practis o flaen llaw gan y gofynnir i chi ddangos rhai dogfennau adnabod. Bydd y practis yn gofyn am wybodaeth benodol gennych chi i wirio pwy ydych chi waeth pa mor dda y maen nhw’n eich adnabod chi.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd y practis yn gofyn i glinigydd gadarnhau pwy ydych chi er mwyn dilysu bod rhai manylion ar eich cofnod iechyd.
I gael help gyda’ch cyfrif NHS login, ewch i Ganolfan Gymorth NHS login.
Yma gallwch ddarganfod sut i reoli eich cyfrif, gan gynnwys diweddaru eich manylion cyswllt.
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y ganolfan gymorth, cysylltwch â thîm cymorth NHS login.
Mwy o wybodaeth am reolau defnyddio NHS login
Rydym wrthi’n datblygu gwasanaeth i aelodau’r teulu a gofalwyr allu cael mynediad at a rheoli gwasanaethau iechyd a gofal ar ran rhywun arall. Enw’r gwasanaeth hwn fydd Mynediad Awdurdodedig.
Pan fydd y gwasanaeth hwn ar gael, bydd angen i chi gysylltu â’ch practis meddyg teulu i:
Bydd angen i’r person rydych chi’n gwneud cais i reoli eu gwasanaethau, neu’n rhoi mynediad iddyn nhw i reoli eich gwasanaethau chi, fod wedi cofrestru yn yr un practis meddyg teulu, a bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth gyda’ch practis meddyg teulu, a bydd yn rhaid i chi ofyn am fynediad gyda’ch practis meddyg teulu. Y practis fydd yn penderfynu pa fynediad awdurdodedig y maen nhw’n ei roi i chi. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru pan fydd y gwasanaeth hwn yn fyw.