Neidio i'r prif gynnwy

Ôl bys, wyneb neu iris

Pan fyddwch yn mewngofnodi i’r ap GIG Cymru am y tro cyntaf byddwch yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair ac yn cael cod diogelwch. Byddwch yn gallu parhau i ddefnyddio’r manylion mewngofnodi hyn neu gallwch ddewis defnyddio biometreg i fewngofnodi.

Gosod manylion biometreg yn yr ap GIG Cymru

I osod manylion biometreg yn yr ap:

  1. Ewch i Mwy.
  2. Dewiswch Cyfrif a gosodiadau
  3. Ar gyfer Android, dewiswch Ôl-bys, wyneb neu iris, neu ar gyfer Apple dewiswch Touch ID neu Face ID.
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar y sgrin.

Y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi, gofynnir i chi gyffwrdd ar y synhwyrydd ôl bys neu i edrych ar y ddyfais yn lle nodi eich cyfeiriad e-bost, cyfrinair a chod diogelwch. 

Cymorth gyda biometreg

Os ydych chi'n defnyddio dyfais Android ac nad yw eich ôl bys, eich wyneb neu eich iris yn cael ei adnabod, ceisiwch fewngofnodi gyda math gwahanol o fiometreg, os yw eich dyfais yn ei gefnogi. Er enghraifft, ceisiwch fewngofnodi gyda’ch ôl bys os nad yw eich wyneb yn cael ei adnabod.

Os na allwch ddefnyddio biometreg, mewngofnodwch trwy ddefnyddio eich e-bost, cyfrinair a chod diogelwch.

Cymorth penodol ar gyfer gwahanol fath o ddyfeisiau 

Ffonau Google Pixel a Nexus

Mae’r cyfarwyddiadau hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer y rhan fwyaf o ddyfeisiau Android:

Ffonau a thabledi Samsung

Mae Samsung yn defnyddio gwahanol enwau ar gyfer nodweddion biometreg ac mae’r cymorth mae’r cwmni’n gynnig yn unigryw i bob dyfais. Bydd angen i chi ddod o hyd i’ch dyfais benodol ar wefan Samsung a chwilio am “ôl bys”, “wyneb” neu “iris” ar y tudalen gymorth ar gyfer eich dyfais.

Chwilio am eich dyfais yn adran cymorth a chefnogaeth Samsung 

Touch ID Apple

Mynd i ganllawiau Apple ar sut i osod Touch ID ar ddyfais Apple 

Os ydych yn cael unrhyw broblem, gallwch hefyd ddarganfod beth i’w wneud os nad yw Touch ID yn gweithio ar eich iPhone neu iPad 

Face ID Apple

Ewch i ganllawiau Apple ar sut i osod Face ID ar ddyfais Apple

Os ydych yn cael unrhyw broblemau, gallwch hefyd darganfod beth i’w wneud os nad yw Face ID yn gweithio ar eich iPhone neu iPad Pro 

Ffonau a thabledi eraill

Ewch i wefan y gwneuthurwr penodol i gael cymorth manwl ynghylch defnyddio biometreg ar eu dyfeisiau.