Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli dewisiadau hysbysu

Rydym yn defnyddio hysbysiadau i roi gwybod i chi pan fydd gennych neges newydd gan ap GIG Cymru a darparwyr GIG. Gallwch ddewis pa un a ydych eisiau cael hysbysiadau ap o gwbl yn ogystal â sut yr hoffech eu cael.

Hysbysiad yw pan gewch eich hysbysu yn yr Ap bod rhywun wedi anfon diweddariad neu neges atoch. Gallwch ddewis sut yr ydych yn cael yr hysbysiad hwn (er enghraifft fel "ping" ar eich ffôn yn yr un ffordd ag y byddwch fel arfer yn cael neges destun) neu gallwch dderbyn hysbysiadau trwy e-bost neu neges destun. 

Neges yw'r hyn y mae'r hysbysiad yn rhoi gwybod i chi amdano. 

Gallwch ddewis sut rydych chi am gael hysbysiadau gan ddefnyddio'r llithrydd ar dudalen Dewisiadau Rheoli hysbysiadau yr Ap. Gallwch newid eich dewisiadau unrhyw bryd.

Dewisiadau iaith

Gallwch ddewis a ydych am dderbyn hysbysiadau yn Ap GIG Cymru yn Gymraeg neu yn Saesneg. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich dewis, bydd yr holl hysbysiadau yn yr Ap yn yr iaith honno. Gallwch newid eich dewis unrhyw bryd.

Fodd bynnag, os bydd eich practis meddyg teulu yn anfon hysbysiadau, maent ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn gyffredinol, felly bydd unrhyw e-byst neu negeseuon testun a gewch gan eich meddygfa yn y ddwy iaith.

Dewis iaith ap

Gallwch ddewis a ydych am gael hysbysiadau yn ap GIG Cymru yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ar ôl i chi wneud eich dewis, bydd yr holl hysbysiadau yn yr ap yn yr iaith honno. Gallwch newid eich dewisiadau unrhyw bryd.

Fodd bynnag, os bydd eich practis meddyg teulu yn anfon hysbysiadau, maent ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn gyffredinol, felly bydd unrhyw e-byst neu negeseuon testun a gewch gan eich meddygfa yn y ddwy iaith. 

Dewis iaith yr ap

Sylwch: er y gallech ddewis un iaith i gael negeseuon gan ddefnyddio'r llithrydd hysbysu, bydd iaith yr ap yn aros yr un peth. Os ydych chi eisiau newid ieithoedd yn yr ap GIG Cymru, gallwch ddefnyddio'r newidiwr iaith sy'n ymddangos ar frig y sgrin. Fe welwch naill ai CY neu EN yn y fersiwn ap neu Cymraeg neu Saesneg yn y fersiwn we, yn dibynnu ar ba iaith rydych chi'n ei defnyddio. Gallwch newid rhwng ieithoedd ar unrhyw sgrin o’r ap.

 

Mathau o hysbysiadau a negeseuon

Mae 2 fath o hysbysiad y gallwch ddewis eu derbyn drwy Ap GIG Cymru:
 
1. Cyffredinol
Negeseuon cyffredinol am ofal iechyd sydd ddim yn berthnasol i chi. Gall y rhain gynnwys diweddariadau a rhybuddion iechyd cenedlaethol (fel y newyddion diweddaraf am COVID-19) neu bryd y bydd y brechiadau ffliw yn dod i'ch meddygfa, yn ogystal ag ymgyrchoedd y GIG fel mentrau yn tynnu sylw at ganser ceg y groth neu ganser y brostad. 
 

Enghreifftiau o negeseuon cyffredinol

  • negeseuon am ymgyrchoedd cyhoeddus a chenedlaethol
  • ymgyrchoedd gofal iechyd wedi'u targedu
  • negeseuon system
  • argaeledd apwyntiadau
  • diweddariadau am yr Ap sy’n gallu cynnwys nodweddion newydd neu welliannau
2. Negeseuon atgoffa

Mae negeseuon atgoffa yn benodol i chi. Maent yn cynnwys negeseuon i atgoffa am apwyntiadau sydd ar y ffordd neu geisiadau am bresgripsiwn. Bydd y math o negeseuon atgoffa y byddwch yn eu cael yn dibynnu ar eich practis meddyg teulu ac ysbyty.

Enghreifftiau o fathau o negeseuon atgoffa

  • canlyniadau profion
  • delweddu
  • dogfennau/atodiadau
  • atgoffa am apwyntiadau
  • atgoffa am bresgripsiwn

Ffyrdd o gael hysbysiadau

Gallwch ddewis i gael negeseuon trwy:

  • hysbysiad gwthio (os ydych yn defnyddio ffôn i gael mynediad i'r Ap byddwch yn cael hysbysiad yn dweud bod gennych neges yn yr ap)
  • e-bost (i’r cyfeiriad e-bost sydd gan eich practis meddyg teulu)
  • neges destun (i’r rhif ffôn sydd gan eich practis meddyg teulu)