Neidio i'r prif gynnwy

Telerau defnyddio Ap GIG Cymru

1. Pwy ydym ni

1.1. Ni yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau digidol i GIG Cymru ac rydym wedi datblygu Ap GIG Cymru.

1.2. Mae Ap GIG Cymru yn eich galluogi i gael mynediad at gofnodion meddygol, apwyntiadau, archebu presgripsiynau a gwasanaethau cysylltiedig, yn ymwneud â’ch gofal gan GIG Cymru.

1.3. Os hoffech gael gwybod mwy amdanom, neu os ydych angen cymorth a chefnogaeth i ddefnyddio Ap GIG Cymru, cysylltwch â ni trwy: DSPPInfo@wales.nhs.uk

1.4. Nid ydym yn darparu eich gofal meddygol, gwasanaethau clinigol, canlyniadau profion na phresgripsiynau, ac os oes gennych gwestiynau am y gwasanaethau hynny, rhaid i chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu Fwrdd Iechyd Lleol GIG Cymru.

1.5. Byddwn yn defnyddio’r manylion a roddoch wrth gofrestru ar gyfer Ap GIG Cymru i gysylltu â chi am unrhyw gwestiynau y byddwch yn eu codi gyda ni.

1.6. Pan fyddwn yn defnyddio testun trwm ar gyfer geiriau yn y ddogfen hon, mae hynny'n dangos bod y paragraff y mae'r testun trwm yn ymddangos ynddo yn diffinio'r geiriau hynny.

2. Y telerau hyn

2.1. Mae'r telerau hyn yn berthnasol i'ch defnydd o Ap GIG Cymru a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu.

2.2. Rydych yn derbyn y telerau hyn pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Ap GIG Cymru a phan fyddwch yn defnyddio’r ap.

2.3. 2.3. Mae’r telerau hyn hefyd yn cynnwys ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis

2.4. Gallwn ddiwygio’r telerau hyn, er enghraifft i ddisgrifio newidiadau yn y gwasanaethau neu newidiadau yn y gyfraith. Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r telerau hyn bob amser ar gael trwy Ap GIG Cymru.

3. Defnyddio Ap GIG Cymru

3.1. Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru er mwyn defnyddio Ap GIG Cymru.

3.2. Mae Ap GIG Cymru ond yn darparu gwasanaethau mewn perthynas â gofal a ddarperir gan GIG Cymru.

3.3. Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 16 oed o leiaf i ddefnyddio Ap GIG Cymru.

3.4. Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y mesurau diogelwch a ddisgrifir yn Ap GIG Cymru.

3.5. Byddwch angen cysylltiad â’r rhyngrwyd i ddefnyddio Ap GIG Cymru. Nid ydym yn gyfrifol am anawsterau a wynebir wrth geisio cael mynediad at Ap GIG Cymru sydd wedi’u hachosi gan faterion yn ymwneud â chysylltiad â’r rhyngrwyd.

3.6. Gallwn atal neu newid Ap GIG Cymru unrhyw bryd, ac nid ydym yn gwarantu y bydd ar gael bob amser. Ni ddylech ddibynnu ar Ap GIG Cymru fel eich unig ffynhonnell o wybodaeth am eich gofal nac i gysylltu â GIG Cymru neu eich meddyg teulu.

3.7. Mae Ap GIG Cymru ar eich cyfer chi, ac i’w ddefnyddio mewn perthynas â’ch gofal iechyd yn unig. Ni ddylech ganiatáu i unrhyw un arall ei ddefnyddio, oni bai eu bod yn rhywun rydych yn ymddiried ynddynt sy’n eich helpu gyda’ch gofal iechyd. Chi sy’n gyfrifol am ddefnydd yr unigolyn hwnnw o Ap GIG Cymru ac ni ddylech rannu eich gwybodaeth mewngofnodi a chyfrinair gyda nhw.

3.8. Os ydych yn meddwl bod gan rywun arall eich gwybodaeth mewngofnodi a chyfrinair ar gyfer Ap GIG Cymru, dylech newid eich manylion cyfrinair gan ddefnyddio ein tudalen gymorth

3.9. Mae yna rhai gofynion technegol i Ap GIG Cymru weithio’n iawn, a ddisgrifir ar ein tudalen gymorth.

4. Diweddariadau i Ap GIG Cymru

4.1. Efallai bydd angen i chi ddiweddaru Ap GIG Cymru er mwyn parhau i’w ddefnyddio.

4.2. Os na fyddwch yn gosod diweddariadau ar gyfer Ap GIG Cymru neu ar gyfer eich ffôn clyfar, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio ei holl wasanaethau.

5. Y Gwasanaethau

5.1. Os yw eich Meddyg Teulu’n caniatáu, gallwch:

  • wneud apwyntiadau i weld eich Meddyg Teulu yn defnyddio Ap GIG Cymru ac
  • archebu presgripsiynau amlroddadwy ar gyfer meddyginiaethau y mae eich Meddyg Teulu wedi’u rhagnodi.

5.2. Efallai y bydd Ap GIG Cymru yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau gwybodaeth eraill a ddarperir gan gyrff eraill GIG Cymru neu y mae GIG Cymru yn eu trefnu ar eich cyfer. Gallai’r gwasanaethau hyn fod yn destun telerau a pholisïau preifatrwydd eraill. Darllenwch y telerau a’r polisïau hyn gan eu bod yn berthnasol i’ch mynediad at wasanaethau gwybodaeth eraill.

6. Y wybodaeth a roddwch a’r wybodaeth a ddarperir gan yr ap

6.1. Er mwyn i Ap GIG Cymru eich helpu chi, rhaid i chi roi gwybodaeth gywir i’r ap.

6.2.Nid yw Ap GIG Cymru yn cymryd lle eich meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall a dylech ddilyn y cyngor meddygol y maent yn ei roi i chi.

6.3. Gall Ap GIG Cymru ddarparu gwybodaeth i’ch helpu gyda’ch triniaeth neu gyflyrau ond nid dweud wrthych beth ddylai eich triniaeth fod (gwasanaethau meddygol) na beth yw eich cyflwr (gwasanaethau diagnostig).

6.4. Mae Ap GIG Cymru yn darparu gwybodaeth gan GIG Cymru a ffynonellau eraill ac nid yw’n disodli’r wybodaeth a’r arweiniad a gewch gan eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

6.5. Lle mae Ap GIG Cymru yn rhoi mynediad i chi at eich cofnodion meddygol, mae cyfyngiadau technoleg yn golygu efallai na fydd y mynediad hwn yn gyflawn. Efallai y bydd yna faterion pwysig yn eich cofnodion meddygol sydd ddim yn cael eu harddangos yn Ap GIG Cymru.

7. Stopio defnyddio Ap GIG Cymru

7.1. Gallwch stopio defnyddio Ap GIG Cymru pryd bynnag y dymunwch.

7.2. Gallwn eich rhwystro rhag defnyddio Ap GIG Cymru os na fyddwch yn dilyn y telerau hyn. Byddwn yn dweud wrthoch chi os byddwn yn gwneud hyn ac yn rhoi cyfle i chi gywiro pethau.

7.3. Efallai na fydd Ap GIG Cymru yn gweithio’n llawn os bydd eich practis Meddyg Teulu’n newid y ffordd mae eu systemau’n gweithio.

7.4. Os byddwn yn eich rhwystro rhag defnyddio Ap GIG Cymru:

  • rhaid i chi stopio’r holl weithgareddau a awdurdodir gan y telerau hyn;
  • efallai bydd angen i chi ofyn am ein caniatâd cyn i chi ddechrau defnyddio Ap GIG Cymru eto
  • bydd unrhyw ddata personol amdanoch chi sydd gennym yn cael ei drin yn unol â’n polisi cadw data, sy’n cael ei amlinellu yn ein polisi preifatrwydd;
  • bydd pob hawl sydd gennych o dan y telerau hyn yn dod i ben;
  • byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu mynediad at Ap GIG Cymru i chi.

8. Y dechnoleg sy’n cefnogi Ap GIG Cymru

8.1. Rydym naill ai'n berchen ar y dechnoleg a'r hawliau eiddo deallusol sy’n cefnogi Ap GIG Cymru, neu mae gennym yr hawl i'w defnyddio. Rydym yn rhoi caniatâd i chi ddefnyddio’r hawliau hynny ar gyfer defnyddio Ap GIG Cymru fel y disgrifir yn y telerau hyn.

8.2. Nid ydym yn rhoi unrhyw hawliau eraill i chi ddefnyddio Ap GIG Cymru.

8.3. Mae eich hawliau i ddefnyddio Ap GIG Cymru yn bersonol i chi ac at y dibenion a amlinellir yn y telerau hyn yn unig.

8.4. Oni bai y caniateir gan y gyfraith neu o dan y telerau hyn, byddwch ddim yn:

  • copïo Ap GIG Cymru;
  • caniatáu i unrhyw un arall ddefnyddio Ap GIG Cymru;
  • addasu Ap GIG Cymru.

9. Pethau na allwch eu gwneud gydag Ap GIG Cymru

9.1. Pan fyddwch yn defnyddio Ap GIG Cymru ni chaniateir i chi:

  • trosglwyddo unrhyw ddeunydd sy'n ddifenwol, yn dramgwyddus neu'n annymunol fel arall;
  • casglu unrhyw ddata o systemau y mae Ap GIG Cymru yn cysylltu â nhw;
  • dadgodio unrhyw llifau data a alluogir gan Ap GIG Cymru
  • defnyddio’r ap mewn modd a allai analluogi neu ymyrryd â’n systemau diogelwch
  • ymyrryd â defnydd pobl eraill o Ap GIG Cymru
  • defnyddio’r ap at ddibenion troseddol neu anghyfreithlon
  • ‘hacio’ neu geisio mynediad anawdurdodedig i’n systemau
  • anfon firysau, meddalwedd neu god arall sydd wedi’i ddylunio i gael effaith andwyol ar ein systemau

10. Ein hatebolrwydd i chi

10.1. Rydym yn darparu Ap GIG Cymru gan ddefnyddio ein hymdrechion rhesymol fel y disgrifir yn y telerau hyn. Ni allwn gynnig unrhyw sicrwydd i chi y bydd Ap GIG Cymru bob amser yn gywir, y bydd yn diwallu eich anghenion penodol neu y bydd ar gael bob amser.

10.2. Lle mae Ap GIG Cymru yn cynnig mynediad at wasanaethau gwybodaeth eraill, mae’r cyrff sy’n darparu’r gwasanaethau hynny yn atebol i chi amdanynt.

10.3. Nid yw'r telerau hyn yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd i chi am anaf personol neu farwolaeth a achosir gan ein hesgeulustod, twyll, neu ddifrod a achosir i'ch dyfais neu gynnwys digidol yr ydym ni’n gyfrifol amdano ac nad ydym wedi defnyddio sgil a gofal rhesymol i'w atal.

10.4. Nid ydym yn gyfrifol am golled neu ddifrod:

  • heb ei achosi gan ein hesgeulustod ni neu dorri'r telerau hyn;
  • a achosir gan anallu i gael mynediad at Ap GIG Cymru
  • sy'n golled busnes
  • sydd ddim yn ganlyniad amlwg i ni dorri'r telerau hyn.

10.5. Nid yw'r telerau hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau cyfreithiol a allai fod gennych fel defnyddiwr mewn perthynas â gwasanaethau neu feddalwedd diffygiol. Mae cyngor am eich hawliau cyfreithiol ar gael gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth neu Swyddfa Safonau Masnach leol.

11. Cyffredinol

11.1. Y telerau hyn yw’r unig delerau yr ydym yn sicrhau bod Ap GIG Cymru ar gael arnynt.

11.2. Mae'r telerau hyn ond yn rhoi hawliau i chi ac nid i unrhyw un arall.

11.3. Os byddwn yn penderfynu peidio â gorfodi’r telerau hyn ar unrhyw adeg benodol, nid yw hyn yn ein hatal rhag eu gorfodi yn ddiweddarach.

11.4. Mae'r telerau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.