Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd Ap GIG Cymru


Fersiwn 2.0.0, 22 Awst 2024

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ap GIG Cymru. Mae hefyd yn berthnasol pan fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif GIG.

Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y wefan Cymorth a Chefnogaeth hon. Mae Ap GIG Cymru yn cael ei redeg gan y Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu ei ddefnyddio.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i ddefnyddio Ap GIG Cymru ar ddyfais iOS neu Android. Mae hefyd yn berthnasol pan fyddwch yn cyrchu’r un gwasanaethau drwy fewngofnodi drwy wefan Ap GIG Cymru mewn porwr gwe. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod yr holl nodweddion yn bodloni safonau hygyrchedd. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn gyda'n cynnydd ar ddatrys unrhyw faterion.

 


Defnyddio gosodiadau hygyrchedd ar eich dyfais

Ar ffôn neu lechen gallwch ddefnyddio'r gosodiadau hygyrchedd Apple iOS neu Android cynwysedig i wneud rhai rhannau o Ap GIG Cymru yn fwy hygyrch.

Gallwch hefyd fewngofnodi o wefan y GIG. Drwy newid y gosodiadau ar eich porwr gwe neu gyfrifiadur dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 200% gyda'r testun yn aros yn weladwy ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • >llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver

Mae gan AbilityNet gyngor i'ch helpu i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd. Mae angen i chi greu cyfrif gydag NHS login i ddefnyddio Ap GIG Cymru. Gallwch ddarllen datganiad hygyrchedd NHS login.

 


Pa mor hygyrch yw Ap GIG Cymru?

Rydym yn profi ein cynnwys yn rheolaidd yn unol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1 ar ddyfeisiau symudol a bwrdd gwaith. Rydym yn dilyn canllawiau llawlyfr gwasanaeth y GIG ar ddylunio hygyrch.

Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai rhannau o Ap GIG Cymru (a mynediad at ei wasanaethau trwy borwr gwe) yn gwbl hygyrch. Mae hyn yn cynnwys y materion canlynol.

  • Dim ond yn y "Dewislen" y gellir dod o hyd i nifer o swyddogaethau allweddol, a all ei gwneud yn anodd dod o hyd iddynt i rai defnyddwyr wrth ddefnyddio'r wefan ar ddyfais symudol
  • Gall rhai adrannau o'r ap achosi problemau i ddarllenwyr sgrin, neu beidio â darparu'r nodau sy'n weddill mewn maes mewnbwn ar gyfer darllenwyr sgrin
  • Ar rai adegau, mae ffocws darllenwyr sgrin yn cael ei golli neu'n mynd i leoliad a allai fod yn ddryslyd ac yn groes i synnwyr.
  • Nid yw rhai dolenni, wrth glicio arnynt, yn mynd â defnyddwyr i'r lleoliad y gellir ei ragweld o’r testun yn y ddolen
  • Mae'n bosibl y bydd darllenwyr sgrin yn cael anhawster o ran terfyn amser a ffocysu gyda dolenni i dudalennau casglu adborth, sy'n eiddo i drydydd parti ac yn cael eu rhedeg ganddo ("Qualtrics")

Darperir rhai nodweddion gan wasanaethau cysylltiedig ac nid ydym yn rheoli pa mor hygyrch ydynt.

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy roi gwybod i ni am eich profiadau a’ch gofynion o Ap GIG Cymru
 
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
 
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd Ap GIG Cymru

 


Statws cydymffurfio

Mae Ap GIG Cymru ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android (a mynediad o borwr gwe) yn cydymffurfio’n rhannol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae hyn oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir ar y dudalen hon. Mae'r fersiynau a argymhellir ar gyfer Apple iOS 14 ac yn ddiweddarach ac Android 10 ac yn ddiweddarach. Os nad yw eich dyfais yn cydweddu, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio eich porwr gwe i gael mynediad i Ap GIG Cymru.

 


Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw agweddau ar Ap GIG Cymru yn cydymffurfio fel y manylir ar y dudalen hon. Y meini prawf a grybwyllir yw'r meini prawf llwyddiant a nodir yn y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2 AA. Rydym yn bwriadu cywiro’r rhan fwyaf o’r materion hyn erbyn diwedd 2024.

 

Sut mae gwybodaeth wedi'i labelu neu ei marcio

  • Nid yw rhai elfennau rhyngweithiol megis botymau wedi cael enw, rôl neu werth priodol neu gywir i ddweud wrthych beth maent yn ei wneud pan fyddwch yn defnyddio darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth lefel A). Yn achos botymau, mae hyn hefyd yn methu 2.4.4 (Diben Dolen yn ei Chyd-destun, lefel A).
  • Wrth wirio am apwyntiadau practis meddyg teulu sydd ar gael, os nad oes apwyntiadau ar gael, nid oes cyhoeddiad awtomatig. Gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin wybod a oes apwyntiadau ar gael ar gyfer eu hidlyddion dethol. Mae hyn yn methu maen prawf 1.3.3 (Nodweddion Synhwyraidd lefel A) a 4.1.3 (Statws Negeseuon Lefel AA)

Sut mae cynnwys yn ymateb i'ch mewnbwn

  • Mewn rhai mannau mae darllenwyr sgrin yn darparu diweddariadau parhaus wrth i chi fewnbynnu gwybodaeth, a all dynnu sylw. Mae hyn yn methu maen prawf 4.1.3 (Negeseuon Statws, lefel AA).
  • Pan fyddwch yn toglo cwcis ymlaen neu i ffwrdd gan ddefnyddio darllenydd sgrin, mae ffocws y darllenydd sgrin yn symud yn annisgwyl i frig y dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf 3.2.2 (Ar Fewnbwn, lefel A).

Lliw, cyferbyniad a chyflwyniad

  • Nid yw newid maint y testun yn y gosodiadau hygyrchedd ar eich dyfais yn effeithio ar yr holl destun yn Ap GIG Cymru. Mae hyn yn methu maen prawf 1.4.4 (Newid Maint Testun, lefel AA).

 


Offeryn adborth Ap GIG Cymru

Mae'r offeryn adborth a ddefnyddiwn i gasglu adborth a chynnal arolygon gan ddarparwr trydydd parti (Qualtrics) . Ar hyn o bryd mae'n methu'r meini prawf hygyrchedd canlynol:

  • Gallwch gyrraedd rhywfaint o gynnwys gan ddefnyddio darllenydd sgrin sydd i fod yn anweledig, ac na ellir rhyngweithio ag ef. Mae hyn yn methu maen prawf 2.4.7 (Ffocws Gweladwy, lefel AA).
  • Mae'r drefn y caiff gwybodaeth ei chyflwyno ynddi yn gudd ac yn afresymegol pan fyddwch yn defnyddio darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf 2.4.3 (Trefn Ffocws, lefel A) ac 1.3.2 (Dilyniant Ystyrlon, lefel A).
  • Nid yw botwm wedi cael enw, rôl na gwerth priodol na chywir i ddweud wrthych beth mae'n ei wneud pan fyddwch yn defnyddio darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth lefel A).

 


Baich anghymesur

Rydym yn bwriadu cynnal asesiad i benderfynu a fydd unrhyw faterion hygyrchedd a restrir ar y dudalen hon yn cael eu dosbarthu fel baich anghymesur i'w datrys.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Awst 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 22 Awst 2024. Rydym yn profi anghenion hygyrchedd yn barhaus. Rydym hefyd wedi ymrwymo i archwiliadau rheolaidd gan aseswyr arbenigol annibynnol.

Cafodd Ap GIG Cymru ar gyfer Apple iOS, dyfeisiau Android a phorwr gwe ei archwilio ddiwethaf ym mis Ebrill 2024.