Neidio i'r prif gynnwy

Fy Iechyd - trosolwg

Mae’r adran hon o ap GIG Cymru yn grwpio’ch holl wybodaeth iechyd ynghyd mewn un lle – boed o’ch practis meddyg teulu, neu ymweliadau ysbyty, neu ddigwyddiadau iechyd rydych chi wedi’u hychwanegu at yr ap eich hun.

Efallai na fydd pob nodwedd ar gael yn syth, ond mi fyddant yn cael eu lansio yn yr ap mewn diweddariadau yn y dyfodol.

Yn dibynnu ar eich bwrdd iechyd neu bractis meddyg teulu, efallai y byddwch yn gweld:

  • meddyginiaethau mae eich Meddyg Teulu wedi’u rhoi i chi
  • unrhyw alergeddau neu adweithiau alergedd rydych wedi’u hadrodd i’ch Meddyg Teulu
  • canlyniadau profion gan eich Meddyg Teulu
  • “Llinell amser fy iechyd” - casgliad o’ch holl gofnodion iechyd a digwyddiadau y gallwch eu chwilio yn ôl dyddiad a math o gofnod
  • “Amdanaf fi a fy ngofal” - ffurflen sy’n eich helpu i ddisgrifio eich anghenion gofal iechyd, eich dymuniadau a’ch cynlluniau
  • gwybodaeth am wasanaethau rhoi organau a gwaed

Efallai bydd peth o gynnwys yr ap yn cael ei ddarparu gan ddarparwr trydydd parti. Mae’r rhain yn gwmnïau y mae eich bwrdd iechyd wedi dewis eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth benodol i chi. Bydd yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd a phractis meddyg teulu.

Os yw eich bwrdd iechyd wedi dewis defnyddio darparwr trydydd parti, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn yr ap GIG Cymru cyn i chi gyrchu’r wybodaeth.

Beth os na allaf weld y wybodaeth yr wyf yn ei disgwyl?

Bydd gan bob practis Meddyg Teulu a bwrdd iechyd eu perthynas eu hunain gydag ap GIG Cymru. Nid yw pob practis wedi gwneud eu cofnodion ar gael trwy’r ap eto.

Efallai na fyddwch yn gweld eich holl gofnodion pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf oherwydd efallai eu bod yn y broses o gael eu diweddaru neu efallai y byddant yn cymryd peth amser i'w llwytho os oes yna nifer fawr. 

Os oes yna gofnodion yr ydych yn disgwyl eu gweld, ond ddim yn gallu, cysylltwch â’r practis Meddyg Teulu i drafod.