Yn Ap GIG Cymru, gallwch:
Efallai na fyddwch yn gweld presgripsiwn amlroddadwy os:
Efallai na fyddwch yn gallu archebu rhai meddyginiaethau presgripsiwn os:
Gofynnwyd amdano eisoes | Gallwch wirio hanes eich cais yn yr App i gadarnhau |
Mae angen adolygiad meddyginiaeth arnoch chi | Gallwch gysylltu â'ch practis meddyg teulu i drefnu adolygiad meddyginiaeth |
Mae'n rhy gynnar i archebu eich meddyginiaeth | Os nad yw meddyginiaeth yn dangos yn yr Ap fel rhywbeth sydd ar gael i'w archebu, gallai fod oherwydd nad yw wedi cyrraedd ei ddyddiad dyledus penodol. |
Mae'n bresgripsiwn acíwt (tymor byr) neu untro | I weld a oes gennych bresgripsiwn acíwt neu bresgripsiwn amlroddadwy, ewch i Fy iechyd , yna dewiswch GP record iechyd . |
Mae gennych bresgripsiwn amlroddadwy | Os oes gennych bresgripsiwn amlroddadwy, bydd eich meddyg teulu eisoes wedi cymeradwyo eich presgripsiynau am gyfnod penodol; nid oes angen i chi ofyn am y presgripsiwn eto. |
Gallwch weld pryd mae eich cais am bresgripsiwn amlroddadwy wedi’i:
Mae "wedi’i gyflwyno" yn golygu bod eich cais yn cael ei brosesu ac yn disgwyl adolygiad gan Feddyg Teulu.
Os yw’r statws yn dangos fod y cais wedi "cael ei gymeradwyo", cysylltwch â’ch practis Meddyg Teulu i weld pryd fydd y presgripsiwn yn barod i’w gasglu.
Mae "wedi’i wrthod" yn golygu bod meddyg Teulu wedi adolygu eich cais ac wedi ei wrthod. Gall eich meddygfa roi manylion i chi ynghylch pam mae hyn wedi digwydd.
Unwaith y bydd eich meddyginiaethau presgripsiwn yn barod yn eich fferyllfa gymunedol, efallai y byddwch yn derbyn hysbysiad presgripsiwn yn barod.
Mae’r nodwedd hon yn cael ei chyflwyno i fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru ar hyn o bryd, felly efallai na fydd eich fferyllfa gymunedol yn gallu eu hanfon eto. Os ydych chi’n credu y dylai eich presgripsiwn fod wedi cael ei weinyddu ac nad ydych wedi derbyn hysbysiad, cysylltwch â’ch fferyllfa neu ewch i’ch fferyllfa.
Darganfyddwch sut i droi hysbysiadau gwthio ymlaen ar gyfer Ap GIG Cymru ar eich dyfais.
Ar ôl i chi archebu eich presgripsiwn amlroddadwy, rydym yn argymell eich bod yn aros am 72 awr cyn i chi gasglu eich meddyginiaeth(au). Os nad ydych yn siŵr a yw eich presgripsiwn yn barod i'w gasglu, cysylltwch â'ch practis Meddyg Teulu.
Efallai bod enw’r feddyginiaeth wedi ei newid gan eich Meddyg Teulu neu fod y fferyllfa yn defnyddio term meddygol nad ydych yn gyfarwydd ag ef. Gall y fferyllfa rydych yn mynd iddi i gasglu eich meddyginiaeth ddweud wrthych am y gwahanol enwau ar gyfer y feddyginiaeth.
Os ydych dal yn ansicr ai hwn yw’r feddyginiaeth iawn, cysylltwch â’ch practis Meddyg Teulu.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am feddyginiaethau o GIG 111 Cymru ar-lein.
Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth y tu allan i oriau agor arferol eich practis Meddyg Teulu a’ch bod angen peth ar frys, dyma ychydig o ffyrdd y gallwch gael cyflenwad yn sydyn, hyd yn oed os ydych oddi cartref.
Os yw eich fferyllfa leol wedi cau, gallwch gael eich meddyginiaeth gyda'ch presgripsiwn gan unrhyw fferyllydd, cyn belled â bod stoc ar gael. Mae manylion am fferyllfeydd eraill yn yr ardal a’u horiau agor ar gael yma.
Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth amlroddadwy ac nad oes gennych bresgripsiwn gyda chi, efallai y byddwch yn gallu cael cyflenwad brys gan fferyllydd heb bresgripsiwn. Dylech fynd â hen bresgripsiwn/slip presgripsiwn amlroddadwy neu botel/pecyn y feddyginiaeth gyda chi i’r fferyllfa, os gallwch chi.