Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynau

Yn Ap GIG Cymru, gallwch:

  • archebu presgripsiwn amlroddadwy
  • gweld eich presgripsiynau amlroddadwy presennol
  • gweld meddyginiaethau presennol a rhai’r gorffennol

Os na allwch weld eich hanes presgripsiynau amlroddadwy

Efallai na fyddwch yn gweld presgripsiwn amlroddadwy os:

  • oes yna fwy na 3 mis wedi pasio ers i’r presgripsiwn gael ei roi (bydd hyn yn dibynnu ar eich practis Meddyg Teulu)
  • cafodd y presgripsiwn ei roi mewn ysbyty neu ganolfan gofal eilaidd arall
  • cafodd y presgripsiwn ei roi ar adeg pan oeddech yn byw y tu allan i Gymru
  • nid yw eich practis Meddyg Teulu yn cynnig presgripsiynau amlroddadwy ar-lein ar hyn o bryd

Os na allwch weld eich hanes presgripsiynau amlroddadwy

Efallai na fyddwch yn gallu archebu rhai meddyginiaethau presgripsiwn os:

Gofynnwyd amdano eisoes Gallwch wirio hanes eich cais yn yr App i gadarnhau
Mae angen adolygiad meddyginiaeth arnoch chi Gallwch gysylltu â'ch practis meddyg teulu i drefnu adolygiad meddyginiaeth
Mae'n rhy gynnar i archebu eich meddyginiaeth Os nad yw meddyginiaeth yn dangos yn yr Ap fel rhywbeth sydd ar gael i'w archebu, gallai fod oherwydd nad yw wedi cyrraedd ei ddyddiad dyledus penodol.
Mae'n bresgripsiwn acíwt (tymor byr) neu untro I weld a oes gennych bresgripsiwn acíwt neu bresgripsiwn amlroddadwy, ewch i Fy iechyd , yna dewiswch GP record iechyd .
Mae gennych bresgripsiwn amlroddadwy Os oes gennych bresgripsiwn amlroddadwy, bydd eich meddyg teulu eisoes wedi cymeradwyo eich presgripsiynau am gyfnod penodol; nid oes angen i chi ofyn am y presgripsiwn eto.
 

Tracio eich presgripsiynau amlroddadwy

Gallwch weld pryd mae eich cais am bresgripsiwn amlroddadwy wedi’i:

  • gyflwyno
  • gymeradwyo
  • wrthod

Mae "wedi’i gyflwyno" yn golygu bod eich cais yn cael ei brosesu ac yn disgwyl adolygiad gan Feddyg Teulu.

Os yw’r statws yn dangos fod y cais wedi "cael ei gymeradwyo", cysylltwch â’ch practis Meddyg Teulu i weld pryd fydd y presgripsiwn yn barod i’w gasglu. 

Mae "wedi’i wrthod" yn golygu bod meddyg Teulu wedi adolygu eich cais ac wedi ei wrthod. Gall eich meddygfa roi manylion i chi ynghylch pam mae hyn wedi digwydd.
 

Rheoli hysbysiadau presgripsiwn yn barod

Unwaith y bydd eich meddyginiaethau presgripsiwn yn barod yn eich fferyllfa gymunedol, efallai y byddwch yn derbyn hysbysiad presgripsiwn yn barod.

Mae’r nodwedd hon yn cael ei chyflwyno i fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru ar hyn o bryd, felly efallai na fydd eich fferyllfa gymunedol yn gallu eu hanfon eto. Os ydych chi’n credu y dylai eich presgripsiwn fod wedi cael ei weinyddu ac nad ydych wedi derbyn hysbysiad, cysylltwch â’ch fferyllfa neu ewch i’ch fferyllfa.

Darganfyddwch sut i droi hysbysiadau gwthio ymlaen ar gyfer Ap GIG Cymru ar eich dyfais.

 

Casglu eich meddyginiaeth

Ar ôl i chi archebu eich presgripsiwn amlroddadwy, rydym yn argymell eich bod yn aros am 72 awr cyn i chi gasglu eich meddyginiaeth(au). Os nad ydych yn siŵr a yw eich presgripsiwn yn barod i'w gasglu, cysylltwch â'ch practis Meddyg Teulu.

Meddyginiaeth anhysbys wedi’i nodi ar eich presgripsiwn amlroddadwy

Efallai bod enw’r feddyginiaeth wedi ei newid gan eich Meddyg Teulu neu fod y fferyllfa yn defnyddio term meddygol nad ydych yn gyfarwydd ag ef. Gall y fferyllfa rydych yn mynd iddi i gasglu eich meddyginiaeth ddweud wrthych am y gwahanol enwau ar gyfer y feddyginiaeth. 

Os ydych dal yn ansicr ai hwn yw’r feddyginiaeth iawn, cysylltwch â’ch practis Meddyg Teulu.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am feddyginiaethau o GIG 111 Cymru ar-lein.

Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth y tu allan i oriau agor arferol eich practis Meddyg Teulu a’ch bod angen peth ar frys, dyma ychydig o ffyrdd y gallwch gael cyflenwad yn sydyn, hyd yn oed os ydych oddi cartref.

Os oes gennych bresgripsiwn

Os yw eich fferyllfa leol wedi cau, gallwch gael eich meddyginiaeth gyda'ch presgripsiwn gan unrhyw fferyllydd, cyn belled â bod stoc ar gael. Mae manylion am fferyllfeydd eraill yn yr ardal a’u horiau agor ar gael yma.

Os nad oes gennych bresgripsiwn

Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth amlroddadwy ac nad oes gennych bresgripsiwn gyda chi, efallai y byddwch yn gallu cael cyflenwad brys gan fferyllydd heb bresgripsiwn. Dylech fynd â hen bresgripsiwn/slip presgripsiwn amlroddadwy neu botel/pecyn y feddyginiaeth gyda chi i’r fferyllfa, os gallwch chi.